Neidio i'r prif gynnwy

Plant ysgol yn dysgu sgiliau CPR a all achub bywyd

16 November 2022

Mae plant mewn ysgol gynradd yng Nghaergybi wedi bod yn dysgu rhai sgiliau hanfodol a allai achub bywyd diolch i ymweliad gan staff Ysbyty Gwynedd.

Bu Uwch Ymarferydd yr Adran Llawdriniaethol, Byron Hughes, a’r Technegydd Adfywio, Meurig Lewis, yn ymweld ag Ysgol Gymraeg Morswyn yn ddiweddar i ddysgu disgyblion sut i roi CPR mewn sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol.

Roedd Byron, sy'n gweithio mewn Theatrau yn Ysbyty Gwynedd, hefyd wrth law i roi cipolwg i'r bobl ifanc ar fywyd mewn theatr llawdriniaeth ysbyty.

Dywedodd: “Y tymor hwn mae’r ysgol wedi bod yn cynnal gweithgareddau ar y thema arwr lle mae’r plant wedi bod yn mynd i gwrdd ag arwyr lleol fel yr heddlu neu ddiffoddwyr tân.

“Yn anffodus nid yw’n bosibl i’r plant ddod i’r ysbyty a chwrdd â’r amrywiaeth o staff sydd gennym yn gweithio yno, felly roeddem am ddod â’r ysbyty atyn nhw!

“Fe wnaethon ni hyn trwy greu fideo a roddodd daith o amgylch ein hadran theatr fel bod y plant yn gallu gweld sut brofiad yw bod yno a lle bydden nhw'n mynd pe byddent yn dod i'r ysbyty i gael llawdriniaeth. 

“Roedd yn brofiad gwych i mi wneud hyn, rhoddodd gyfle i mi roi ychydig o fewnwelediad i’r plant i theatrau yn ogystal â dangos iddynt y mathau o swyddwisgoedd a chyfarpar diogelu personol yr ydym yn eu gwisgo.”

Yn ystod yr ymarfer CPR, dysgodd disgyblion am y technegau ar gyfer cynorthwyo rhywun sy'n profi ataliad ar y galon a’r dechneg ar gyfer darparu cywasgiadau ar y frest.

Dywedodd Meurig: “Mae CPR yn sgil bywyd mor bwysig. Nid yw byth yn rhy gynnar i ddysgu sgiliau achub bywyd! Gall plant ifanc ddysgu a chofio'r sgil bwysig hon a allai helpu i achub bywyd rhywun.”

Ychwanegodd Mrs Kelly Owen, athrawes Blwyddyn 2: “Profiad ffantastig i’r plant! Maent wedi dysgu sgiliau hanfodol a fydd yn aros gyda phob un ohonynt. Roedd y gweithgareddau wedi'u cynllunio'n ofalus ac yn briodol i oedran. Roedd pawb yn cymryd rhan weithgar yn y sesiynau a chawsant gyfle i ddysgu sut a phryd i berfformio CPR pan fydd calon rhywun wedi stopio a sut i ddefnyddio diffibriliwr. Gallai'r sgiliau hyn arwain at achub bywyd. Diolch o galon i Byron a Meurig!”