Neidio i'r prif gynnwy

'Pan ddaw'r diwrnod pan fyddaf wedi rhoi'r gorau i fwynhau fy ngwaith, byddaf yn ymddeol' – Crenith yn dathlu 51 mlynedd o wasanaeth i'r GIG

Mae un o ofalwyr y GIG sydd wedi gwasanaethu hiraf yng Nghymru yn dweud nad oes ganddi unrhyw gynlluniau i ymddeol o'r swydd y mae'n ei charu, er ei bod wedi gweithio i'r gwasanaeth iechyd ers 51 o flynyddoedd.

Pan wisgodd Crenith Cox ei gwisg nyrsio am y tro cyntaf ar 5 Mawrth 1972, 'Without You' gan Nilsson oedd ar frig y siartiau, roedd The Godfather yn y sinemâu, ac roedd y cyfrifiannell llaw cyntaf newydd gyrraedd y siopau.

Wrth iddi gyrraedd Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan yn ferch 18 oed, heibio'r Cennin Pedr yn blodeuo, dywedodd ei Thad na fyddai hi'n para mwy nag wythnos wrth y gwaith.

Ond 51 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r ddynes chwe deg naw mlwydd oed yn dal i weithio'n llawn amser, ac nid oes ganddi unrhyw gynlluniau i roi'r gorau i'r swydd sy'n dod â chymaint o lawenydd iddi.

Yn union fel y mae'r byd o'i chwmpas wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth yn yr hanner canrif ddiwethaf, felly hefyd y proffesiwn gofalu sydd wedi bod yn rhan mor annatod o'i bywyd.

Mae gan Crenith atgofion melys o'i blynyddoedd cynnar yn y gwaith, er gwaethaf problemau staffio a threfn nyrsio ddyddiol a oedd yn aml yn llafurus iawn, roedd y gwaith yn rhoi boddhad mawr iddi.

“Byddai’n rhaid i ni bob amser wisgo iwnifform gan gynnwys cap, cyffiau a ffedogau wedi'u startsio,” cofia Crenith.

“Roedd yn lle da i weithio, ond fe allai'r gwaith fod yn anodd iawn. Nid oedd niferoedd y staff yn ddim byd tebyg i'r hyn ydynt heddiw ac roedd yn adeg cyn i'r asesiadau risg a gweithdrefnau iechyd a diogelwch ddod i rym!

"Dechreuais fy ngyrfa yn gweithio gyda phlant, gyda llawer ohonynt yn awtistig ac yn orfywiog iawn. Yr ail ddiwrnod yr oeddwn yno, roeddwn i'n gyfrifol am 18 o gleifion ar fy mhen fy hun. Roedd wir yn waith caled ond yn wobrwyol iawn gan eich bod yn teimlo eich bod wedi gwneud gwahaniaeth.

"Roedd pawb yn gweithio gyda'i gilydd ac oes oedd unrhyw heriau byddem yn eu hwynebu gyda'n gilydd. Rwyf yn edrych yn ôl ar yr amser hynny gydag atgofion melys."

Am y blynyddoedd diwethaf, mae Crenith wedi gweithio fel rhan o dîm bach sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu mewn lleoliad preswyl ar dir Ysbyty Bryn y Neuadd.

Wedi’i disgrifio fel ‘ysbrydoliaeth’ gan gydweithwyr, mae Crenith yn mynd y filltir ychwanegol yn rheolaidd i sicrhau bod cleifion sy’n agored i niwed yn cael gofal da. Mae ei merch Vicky, sydd ei hun yn nyrs yn Ysbyty Glan Clwyd, yn dweud bod ei mam yn dangos yr un anwyldeb tuag at gleifion ag y mae hi'n ei ddangos tuag at ei phlant ei hun.

Mae hyn yn cynnwys prynu bwyd, dillad ac anrhegion pen-blwydd i breswylwyr yr ysbyty. Yn y 1980au, bu hyd yn oed yn maethu cyn-breswylydd yn ei chartref ei hun dros gyfnod o bum mlynedd, er mwyn sicrhau ei fod yn derbyn yr holl gariad a chefnogaeth yr oedd ei angen arno.

“Mae gwybod bod pobl yn cael gofal da a'u bod yn hapus yn rhoi cymaint o foddhad i mi,” eglurodd Crenith.

“Flynyddoedd yn ôl, roedd gennym ni gymaint o gleifion na allem ni wir ddarparu gofal a oedd yn canolbwyntio ar y claf, na dod i'w hadnabod mewn gwirionedd. Ond mae pethau'n well nawr.

“Ar ôl gweithio yma cyhyd, mae’n braf darparu’r dilyniant gofal hwnnw i gleifion. Mae bod yn gyfarwydd gydag unigolion mor bwysig – yn enwedig i bobl ag anableddau dysgu. Mae cleifion yn ymddiried ynof i ac rydw i wedi bod yn cefnogi rhai ohonyn nhw ers dros 20 mlynedd.”

Er ei bod yn nesáu at ei phen-blwydd yn 70 oed, mae Crenith yn dweud nad oes ganddi unrhyw gynlluniau i ymddeol.

“Rwyf wrth fy modd â fy swydd a byddaf wrth fy modd yn mynd i lawr rhodfa'r ysbyty ac yn gweld y Cennin Pedr yn ymddangos. Pan ddaw'r diwrnod pan fyddaf wedi rhoi'r gorau i fwynhau fy ngwaith, byddaf yn ymddeol.

“Ar y cyfan, mae’r GIG wedi bod yn gyflogwr gwych i mi, ac mae wedi gofalu amdanaf drwy gydol fy ngyrfa.

"Mae nyrsio wedi bod yn elfen sylweddol o fy mywyd sydd wedi bod yn hynod o werthfawr ac mae'n dal i fod felly. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un sydd ag owns o dosturi, teimlad, cydymdeimlad ac sy'n mwynhau gallu cynnig rhywbeth er gwell i fywydau cleifion.”

“Heb gefnogaeth a dealltwriaeth anhygoel fy ffrindiau a theulu dros y 50 mlynedd diwethaf, byddai cadw cydbwysedd rhwng fy mywyd a gwaith wedi bod yn llawer anoddach. Hefyd ni allwn fod wedi gwneud hyn heb fy merch anhygoel, mae hi wedi fy nghynnal i.  Rydw i mor falch ohoni a’r hyn mae hi'n ei gyflawni yn y proffesiwn nyrsio”

Dywedodd Dewi Evans, sydd wedi gweithio gyda Crenith yn Ysbyty Bryn y Neuadd am y 30 mlynedd diwethaf, ei bod yn uchel ei pharch ymysg cydweithwyr a chleifion.

“Mae gan Crenith bersonoliaeth anhygoel ac mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad gyda hi y mae hi’n barod i’w rhannu gyda’i chydweithwyr ac yn enwedig gydag unrhyw weithwyr newydd,” meddai.

“Mae’r holl staff a chleifion yn ei charu gymaint a bydd bob amser yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi ei chydweithwyr a’i chleifion.

“Er ei bod bron yn 70 oed a bellach, yn ei 52ain blwyddyn o wasanaeth ymroddedig, bydd yn dod i weithio sifftiau ychwanegol ar unwaith - nid oes angen i chi ofyn ddwywaith.

“Rwy’n cael fy syfrdanu’n gyson gan egni’r ddynes hon. Hyd yn oed ar ôl 51 mlynedd o wasanaeth, nid yw'n arafu ac mae ymddeoliad yn dal i fod ar y gorwel pell. Mae Crenith yn unigryw, efallai na welwn ei thebyg eto!”