Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs uchel ei pharch yn ymddeol ar ôl 45 mlynedd o wasanaeth

06.03.23

Mae nyrs uchel ei pharch yn Ysbyty Gwynedd wedi ymddeol o’i dyletswyddau ar ôl 45 mlynedd yn y proffesiwn.

Dechreuodd Carolyn Owen ei gyrfa fel nyrs dan hyfforddiant ym 1978 ym Mangor a thair blynedd yn ddiweddarach, daeth yn Nyrs Gofal Dwys yn Ysbyty Gwynedd.

Treuliodd Carolyn ddeuddeg mlynedd ar yr Uned Gofal Dwys (ICU) lle y dywedodd y mae ei hatgofion melysaf fel nyrs.

Dywedodd: “Roeddwn wrth fy modd bod yn nyrs ICU, ni allwch guro’r gofal un i un hwnnw gyda chleifion a chael y berthynas agos honno â’u teuluoedd.

“Er gwaethaf mynd trwy gyfnodau trist ar yr uned gyda rhai o’n cleifion a’u teuluoedd, roedd y profiad a gefais yno’n wych.

 “Rydym yn dîm hynod agos a chawsom gymaint o hwyl, roedd yn gyfnod mor arbennig a bydd fy nghalon bob amser yn yr ICU.”

Gadawodd Carolyn ei swydd fel Prif Nyrs yn yr ICU ym 1996 a dechreuodd ar radd Ymwelydd Iechyd a daeth yn gymwysedig ym 1997 gan weithio yn ardal Llandudno.

Ym 1998, dechreuodd Carolyn weithio fel Nyrs Arbenigol mewn Geneteg. Dair blynedd yn ddiweddarach enillodd ei chymhwyster MSc a chofrestriad mewn Cwnsela Genetig a daeth yn arweinydd gwasanaeth Gogledd Cymru yn 2011. Yn 2020, daeth yn Gwnselydd Ymgynghorol Genetig.

Am y 25 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn gweithio’n uniongyrchol â chleifion a theuluoedd gan gynnig gwybodaeth a chymorth genetig/genomig gan eu galluogi i wneud penderfyniadau am eu hiechyd.

Yn ei rôl, roedd yn rhan o dîm amlddisgyblaethol gan weithio ochr yn ochr â’r genetegwyr a gwyddonwyr clinigol, gan helpu i wneud diagnosis, rheoli a rhagweld a sgrinio am glefydau genetig.

Yn 2011, daeth yn arweinydd ar gyfer Gogledd Cymru ac adeiladodd ei thîm ei hun er mwyn parhau â’r gwasanaeth.

Dywedodd: “Deuthum yr arweinydd yn 2011 ac roedd yn gymaint o fraint cael gwneud hyn ac roedd yn bleser datblygu’r gwasanaeth a chael y cyfle i greu rolau gwahanol o fewn y tîm.

 “Gweithiais yn bennaf ar draws Obstetreg, Cardioleg a Phediatreg. Roedd yn rôl wych a gweithiais gyda chymaint o deuluoedd, mae’n rôl y byddaf yn ei cholli’n fawr.

Dywedodd Sonya Edwards, cyn nyrs a weithiodd gyda Carolyn ar yr Uned Gofal Dwys, fod ganddi atgofion annwyl o’u cyfnod yn gweithio gyda’i gilydd.

Dywedodd: “Rydym yn nabod ein gilydd ers yr oeddem yn ein harddegau felly roedd yn wych cael gweithio gyda’n gilydd fel nyrsys ar yr un uned.

 “Mae Carolyn yn agos-atoch ac yn annwyl, ac yn ffrind gwirioneddol arbennig i mi. Rydym wastad wedi bod yno i’n gilydd pan oedd amseroedd yn anodd.”

Daeth Fiona Evans, Nyrs Fasgwlaidd Arbenigol, hefyd yn ffrindiau da gyda Carolyn yn ystod eu cyfnod yn gweithio gyda’i gilydd yn yr ysbyty.

“Roeddem ni i gyd yn nyrsys arbenigol yn ystod yr un cyfnod yn Ysbyty Gwynedd a daethom i gyd yn ffrindiau dros y blynyddoedd.

“Rydw i bob amser yn cofio bod Carolyn mor ddigynnwrf yn y gwaith, nid oedd dim yn ei phoeni ac roedd yn amlwg cymaint yr oedd hi wrth ei bodd bod yn nyrs.”

Mae Carolyn bellach yn edrych ymlaen at ei hymddeoliad a threulio amser gyda’i hwyrion a’i hwyresau a theithio.

Ychwanegodd, “Rydw i wedi cael gyrfa anhygoel ac rydw i wedi gwneud ffrindiau oes. Byddaf yn siŵr o golli nyrsio a byddaf yn colli’r cleifion.”