Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwraig nyrsio o Brifysgol Bangor yn cipio prif wobr genedlaethol

Myfyrwraig nyrsio o Brifysgol Bangor yn cipio prif wobr genedlaethol

Mae myfyrwraig nyrsio o Brifysgol Bangor wedi cael prif wobr genedlaethol am ei gwaith gyda phobl sydd ag anableddau dysgu.

Bu i Kate Young ennill cystadleuaeth ar draws y DU a chael ei choroni'n Fyfyriwr Nyrsio'r flwyddyn y 'Nursing Times' ar gyfer anableddau dysgu mewn seremoni ddisglair yn Llundain.

Dywedodd y beirniaid eu bod yn teimlo bod Ms Young yn “ymgeisydd rhagorol” a oedd yn “dangos sgiliau eithriadol” ym mhob maes o'r meini prawf beirniadu.

Dywedodd y ferch 26 mlwydd oed, sydd ym mlwyddyn olaf y cwrs gradd Nyrsio Anabledd Dysgu ym Mhrifysgol Bangor, ei bod yn sioc ac yn anrhydedd iddi gael ei chydnabod.

Dywedodd: "Mae'n deimlad anhygoel fy mod wedi ennill y wobr. Roedd yn gategori anodd iawn gyda llawer o gystadleuwyr haeddiannol, sydd i gyd yn gwneud gwaith gwych ym maes nyrsio anabledd dysgu ledled y DU. Roeddwn yn falch iawn fy mod wedi cael fy enwebu ac roedd ennill yn sioc enfawr!

Myfyrwraig nyrsio o Brifysgol Bangor yn cipio prif wobr genedlaethol

"Rwy'n ddiolchgar iawn i bob unigolyn rwyf wedi gweithio gyda nhw dros y tair blynedd diwethaf fel myfyriwr. O'r cleifion a'u teuluoedd i fy holl gydweithwyr. Ni fyddwn wedi gallu gwneud dim ohono hebddynt, felly mae'r wobr hon iddyn nhw hefyd!"

Rhoddodd Kate deyrnged hefyd i'r gefnogaeth a gafodd gan staff Ysgol Nyrsio Prifysgol Bangor a Gwasanaethau Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle mae hi wedi cwblhau nifer o leoliadau.

Dywedodd, "Mae'r Tîm Anableddau Dysgu ym Mhrifysgol Bangor yn wych, mae ganddyn nhw gymaint o wybodaeth a phrofiad".

"Mae'r sgiliau a'r angerdd maen nhw'n ei ddefnyddio i drosglwyddo hyn i’r myfyrwyr yn ysbrydoledig iawn. Hefyd mae'r cysylltiadau sydd ganddyn nhw gyda thimau nyrsio anableddau dysgu ar draws Bwrdd Iechyd Betsi yn wych. Maen nhw bob amser yn gallu eich rhoi chi mewn cysylltiad â rhywun a all eich helpu i ddatblygu eich diddordebau ymhellach.

 “Mae fy holl brofiadau lleoliadau arfer wedi bod yn wych ac rwyf wedi dysgu cymaint gan bob aelod o'r timau rwyf wedi treulio amser gyda nhw. Mae pawb mor groesawus a phob amser yn fodlon treulio amser yn rhannu eu gwybodaeth gan helpu i lunio dyfodol y gweithlu nyrsio."

Yn ddiweddar mae Kate wedi ymuno â staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddathlu 100 mlynedd o nyrsio anableddau dysgu. Mae hi eisiau annog mwy o bobl i ystyried gyrfa yn yr alwedigaeth amrywiol "a gwerth chweil" hon.

Eglurodd, “Mae'r llwybrau y gallwch eu cymryd gyda gradd mewn nyrsio Anableddau Dysgu yn ehangu'n gyson”.

"Gallwn weithio ar draws nifer o feysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Os ydych chi eisiau swydd sy'n wahanol bob dydd, sy’n eich herio i feddwl y tu allan i'r bocs ac sy'n eich galluogi i weithio yn y timau mwyaf angerddol ac ysbrydoledig, yna mae hyn i chi."

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio tuag at yrfa mewn nyrsio anableddau dysgu, ewch ar wefan Prifysgol Bangor:  https://www.bangor.ac.uk/courses/undergraduate/B763-Learning-Disability-Nursing