Neidio i'r prif gynnwy

Merch yn ei harddegau yn diolch i staff practis meddygol ym Mlaenau Ffestiniog am achub ei bywyd

01.09.23

Mae merch yn ei harddegau wedi diolch i staff practis meddygol ym Mlaenau Ffestiniog am achub ei bywyd ar ôl iddi fynd yn ddifrifol wael yn sgil Diabetes Math 1 oedd heb ei ddiagnosio.

Yn gynharach eleni, cafodd Jorja Horne-Edwards, sy'n 14 mlwydd oed, ei rhuthro i Ganolfan Goffa Ffestiniog gan staff Ysgol y Moelwyn ar ôl i rywun ei chanfod mewn llewyg yn nhoiled yr ysgol.

Fe wnaeth y clinigwyr yn y ganolfan iechyd asesu Jorja pan gyrhaeddodd hi a chanfod bod lefelau siwgr ei gwaed yn eithriadol o uchel, gan awgrymu bod ganddi Ddiabetes Math 1 a bod cetoasidosis diabetig (DKA) ar fin digwydd. Mae hynny'n un o gymhlethdodau difrifol diabetes a all beryglu bywyd.

Dywedodd Dominic Marten, sy'n Uwch Nyrs Ymarferydd ac un o'r clinigwyr oedd yno'r diwrnod hwnnw: “Pan gyrhaeddodd Jorja, roedd hi'n ddifrifol wael. Fe wnaethom ni dynnu'r cortyn argyfwng a rhuthrodd holl staff y practis yno i gynnig cymorth.

“Dirywiodd ei chyflwr yn gyflym a daeth hi'n anymatebol. Fe wnaethom ni ffonio am ambiwlans a gofyn i'r Uwch Ymarferydd Parafeddygol ddod i'n cynorthwyo ni tra'n disgwyl i'r ambiwlans awyr gyrraedd.

“Cysylltais â thîm Nyrsio Ardal y safle i ofyn am hylifau IV a stribedi ceton. Ar ôl cysylltu pibelli â Jorja, fe wnaethom ni ganfod bod ei chetonau a lefel glwcos ei gwaed yn uchel, roedd hi'n ymwybodol ac yn anymwybodol bob yn ail, yn anymatebol ac yn ddryslyd. Roeddem ni'n credu ei bod hi wedi datblygu DKA.”

Cafodd Jorja ei hedfan i Ysbyty Gwynedd gan wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, ac yn ddiweddarach, cafodd ddiagnosis yn yr ysbyty yn cadarnhau Diabetes Math 1.

Dywedodd ei mam, Emma Horne-Edwards, bod y diagnosis wedi peri synod iddi, a bod angen gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth o symptomau diabetes ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau.

Mae symptomau Diabetes Math 1 yn cynnwys teimlo'n sychedig iawn, pasio dŵr yn amlach (yn enwedig yn ystod y nos) a theimlo'n flinedig iawn.

Dywedodd: “Nid oeddem ni'n ymwybodol o'r arwyddion ar y pryd ac nid oes diabetes ar neb arall yn y teulu. Fodd bynnag, fe wnaethom ni sylwi bod Jorja yn yfed mwy o hylif nag arfer ac yn profi diffyg hylif, ond wnaethom ni erioed feddwl y gallai hi fod yn ddiabetig.

“Rydym yn gobeithio y gwnaiff stori Jorja wella ymwybyddiaeth o'r cyflwr ymhlith pobl ifanc fel y bydd pobl yn fwy ymwybodol o'r symptomau.”

Erbyn hyn, mae Jorja yn ymdopi'n dda â'i diabetes, ac yn ddiweddar, dychwelodd i'r practis i ddiolch i'r staff a'i cadwodd hi'n fyw tra'r oedd hi ar y ffordd i'r ysbyty. 

Dywedodd: “Byddaf bob amser yn ddiolchgar i staff y practis am fy helpu i'r diwrnod hwnnw - fe wnaethant achub fy mywyd.

“Roedd hi'n hyfryd cael cyfle i'w gweld oherwydd ni allaf gofio gweld wynebau pob un ohonynt y diwrnod hwnnw ac roedd gallu diolch iddynt yn bersonol yn deimlad mor braf.”

Dywedodd Eirian Lloyd-Williams, Rheolwr y Practis, ei bod hi'n hynod o falch o'r modd y gwnaeth ei thîm ymateb y diwrnod hwnnw.

Dywedodd: “Fe wnaeth holl aelodau'r staff fynd gam ymhellach i helpu Jorja, ei mam Emma a staff yr ysgol, yn cynnwys y staff gweinyddol, y Meddygon Teulu, yr Uwch Barafeddyg a'r Nyrsys Ardal hefyd.

“Fe wnaeth pawb gynorthwyo mewn rhyw ffordd neu'i gilydd heb firi bach na mawr. Cydweithiodd y tîm er lles pawb i sicrhau eu bod yn cynnig gofal o'r radd flaenaf. Diolch i ymdrechion y tîm, ni wnaeth Jorja brofi unrhyw effeithiau andwyol tymor hir yn sgil yr hyn a ddigwyddodd.

“Roeddem ni wrth ein bodd yn cael cyfle i weld Jorja unwaith eto a'i gweld hi'n hapus ac yn ffynnu.”