Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg Ymgynghorol yn Wrecsam, sy'n gwella gofal i ddioddefwyr damweiniau car, gyda'r siawns o ennill y wobr uchaf yn y DU

Mae nyrs ymgynghorol y mae ei ymchwil wedi newid y ffordd y mae gwasanaethau brys yn trin dioddefwyr damweiniau sy’n gaeth yn eu ceir wedi’i roi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog.

Mae nyrs ymgynghorol mewn meddygaeth frys, Rob Fenwick, sy’n gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi’i ddewis o 920 o geisiadau i gyrraedd rownd derfynol Ymchwilydd y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) 2023. Noddir y wobr gan Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

Bydd Rob yn dod i wybod a yw wedi ennill yn y seremoni ddydd Gwener 10 Tachwedd yng Nghadeirlan Lerpwl. Bydd Nyrs y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Coleg Brenhinol Nyrsio, a ddewiswyd o blith holl enillwyr y categori, hefyd yn cael ei chyhoeddi yn y digwyddiad.

Mae wedi cael ei roi ar y rhestr fer am ddatblygu canllaw sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rhyddhau pobl sy’n gaeth yn eu ceir ar ôl damweiniau drwy'r prosiect Extrication in Trauma (EXIT).

Roedd yn sylfaenol wrth gynllunio’r prosiect, dylunio ymchwil, cyflwyno’r ymchwil – yn ymarferol yn ogystal â’n ysgrifenedig – a sicrhau trosi effeithiol i mewn i ymarfer clinigol. Cafodd y prosiect, gan ddefnyddio ystod eang o fethodolegau ymchwil, ei gyflwyno dros sawl blwyddyn gyda chyllideb fach a dim cyfraniad ariannol yn cael ei roi i gefnogi’r amser a dreuliwyd yn gwneud ymchwil.

Mae egwyddorion a sefydlwyd drwy’r ymchwil wedi’u hymgorffori i mewn i ganllaw clinigol a gweithredol cenedlaethol. Bydd amseroedd achub yn cael eu lleihau, bydd adnoddau’n cael eu defnyddio’n fwy effeithiol a bydd profiad y claf yn cael ei wella.

Dywedodd Rob: “Mae wedi bod yn anhygoel gweld effaith y prosiect dros y 12 mis diwethaf ac mae cael fy rhoi ar y rhestr fer yng Ngwobrau Nyrsio RCN yn fraint enfawr. Mae’r rhain yn amseroedd hynod heriol yng ngofal brys, ond mae cymaint o brosiectau anhygoel yn digwydd bob dydd o fewn y byd nyrsio i geisio gwella gofal a phrofiad cleifion.”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol a phrif weithredwr RCN, Pat Cullen: “Mae ein cystadleuwyr ysbrydoledig sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dangos nyrsio ar ei orau a’r hyn y gellir ei gyflawni yn ystod cyfnodau heriol y proffesiwn.

“Maent yn tynnu sylw at y ffyrdd amrywiol y mae nyrsys yn gwella gofal pobl yn ystod holl gamau bywyd a sut y maent yn dangos eu proffesiynoldeb a’u rhagoriaeth glinigol bob dydd, ac ym mhob lleoliad, ledled y DU."

Partner elusen y wobr eleni yw Foundation of Nursing Studies. Dywedodd ei brif weithredwr a chadeirydd presennol y panel beirniadu, Joanne Bosanquet MBE: “Roedd ansawdd y ceisiadau eleni yn anhygoel ac roedd bron yn amhosib dewis ein rhestr fer o'r gwaith creadigol ac arloesol a gyflwynwyd.

“Mae’r rhestr fer yn arddangos rhagoriaeth ac yn cydnabod y gwahaniaeth enfawr y mae nyrsys yn ei wneud i fywydau pobl ledled y DU.”

Eleni, bydd Gwobrau Nyrsio RCN yn cael eu cynnal ochr yn ochr â ‘Nursing Live’, sef digwyddiad newydd a deinamig i bawb sy’n gweithio yn y byd nyrsio. Yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod (10-11 Tachwedd) yn ACC Lerpwl, bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol yn ogystal â datblygiad personol nyrsys ym mhob cam o’u gyrfaoedd a bydd y digwyddiad y cyntaf o’i fath ar gyfer y sector.