Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg o Ysbyty Maelor Wrecsam yn helpu dynes a oedd saith mis yn feichiog, i roi genedigaeth ar daith awyren ar y ffordd i India

21/01/2022

‘Oes yna feddyg ar yr awyren?’ Clywodd Inshad Ibrahim, o Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam y cais hwn, a’r peth nesaf roedd yn helpu dynes, a oedd dim ond saith mis yn feichiog, i roi genedigaeth ar awyren filoedd o droedfeddi yn yr awyr.

Roedd Inshad, sydd yn byw yn Wrecsam, yn teithio i Kochi, De India, gyda’i wraig a’i ddau o blant, un yn dair mlwydd oed a’r llall yn chwe mis oed. Ar ôl dwy awr yn yr awyr, clywodd Inshad y criw yn gofyn a oedd meddyg ar yr awyren a allai helpu. Gwirfoddolodd Inshad ac aethpwyd ag ef at ddynes oedd ond saith mis yn feichiog, ac a oedd yn edrych mewn poen yn sgil y tyrfedd yr oedden nhw’n teimlo yn yr awyren.

Dywedodd Inshad: “Fe wnaeth staff meddygol eraill ar yr awyren wirfoddoli i helpu hefyd, a phan wnaethon ni roi archwiliad i’r ddynes, fe welon fod ei dŵr wedi torri gan roi gwybod i’r criw bod hwn yn argyfwng a bod angen lle arnom.

“Fe wnaeth criw’r cabin droi’r man lle maen nhw fel arfer yn defnyddio i baratoi bwyd yn ystafell esgor gyda chlustogau a dillad. Pan wnaethon ni gynnal archwiliad, roedd hanner pen y babi allan yn barod. Roedd y babi’n fach iawn ond nid oedd yn gwneud unrhyw sŵn, felly fe wnes i daro ei gefn yn ysgafn ac ar ôl tua 15-20 eiliad agorodd ei lygaid a chrio. Roedd y 15-20 eiliad yna’n hir iawn.”

Shawn Michael oedd enw’r babi, yn pwyso 2.4pwys. Rhoddodd teithwyr eraill eu dillad i gadw’r babi’n gynnes, yn ogystal â chysuro tad newydd Shawn, a helpu gwraig Inshad i edrych ar ôl eu plant.

“Roedd y babi i weld yn iawn, llif gwaed da ac yn sugno’n dda, ond roedd yna dal 7 awr i fynd cyn cyrraedd pen y daith. Gofynnodd y peilot a oeddwn yn gallu gofalu amdani yn ystod y cyfnod hwn, ond roedd angen gofal newydd-anedig frys ar y babi, ac felly gofynnais a allem ni lanio mewn maes awyr agos gan na allwn warantu y buasent yn iawn tan i ni gyrraedd India.

“Fe wnaethon lanio ar frys yn Frankfurt a chafodd y fam, ei gŵr a’r babi eu cludo yn syth i’r ysbyty.

“Roedd yn brofiad anhygoel, yn ddigwyddiad i’w ddathlu ymysg y teithwyr, roedd pawb mor hapus ac wedi cynhyrfu. Fe wnaethon ni gyd gysuro a helpu ei gŵr hefyd, ac fe helpodd y teithwyr fy ngwraig gydag ein plant yn ystod y daith, fel teulu agos.”

Bu’r babi yn yr ysbyty yn Frankfurt am fis, a dim ond yn ddiweddar y mae wedi cael dod adref.

Roedd Inshad ar ei ffordd i Kochi am wyliau gyda’i deulu, dychwelodd adref ychydig wythnosau wedyn, gan weithio dros y Nadolig yn Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam.