Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg o Lerpwl wedi dysgu siarad Cymraeg i gyfathrebu'n well â chleifion

Mae meddyg sy'n gweithio yn Wrecsam a ddysgodd sut i siarad Cymraeg i gyfathrebu â'i gleifion yn eu mamiaith yn gobeithio ysbrydoli eraill i ddysgu'r iaith. 

Penderfynodd Dr Neil McAndrew, sy'n gweithio fel Ffisigwr y Frest, ac sy'n dod yn wreiddiol o Lerpwl, i ddysgu'r Gymraeg pan ddechreuodd weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 18 mlynedd yn ôl. 

I ddathlu Wythnos y Gymraeg flynyddol y Bwrdd Iechyd, mae Dr McAndrew wedi disgrifio manteision dysgu'r iaith, nid yn unig iddo ef a'i gleifion ond i'w deulu hefyd. 

Dywedodd: “Penderfynais ddysgu'r Gymraeg yn bennaf pan ddechreuais fy rôl yn y Bwrdd Iechyd yn Ysbyty Glan Clwyd i mi allu dweud enwau pobl yn gywir!

"Roeddwn yn meddwl ei fod yn eithaf amharchus ynganu enwau pobl yn anghywir yn yr ystafell aros felly roeddwn eisiau gwneud yn siŵr fy mod yn gallu eu hynganu'n gywir!

"Rwyf wedi bod â diddordeb mewn ieithoedd erioed, astudiais Ffrangeg fel pwnc Lefel A a Sbaeneg yn yr ysgol felly roeddwn yn awyddus i ddysgu Cymraeg. 

"Mae digon o lefydd ar gael i ddysgu Cymraeg yng Ngogledd Cymru, es i Ganolfan Iaith Clwyd a Nant Gwrtheyrn. 

"Mae wedi bod yn fanteisiol iawn i mi, aeth fy mhlant i ysgol Gymraeg felly roeddwn yn gallu deall eu gwaith yn Gymraeg a helpu gyda'u gwaith cartref hefyd. 

"Pan rwyf yn siarad Saesneg mae gennyf acen Lerpwl felly pan rwyf yn newid i'r Gymraeg mae bob amser yn synnu cleifion gan nad ydynt yn ei ddisgwyl!  Ond mae'n eu helpu i ymlacio ac mae'n torri'r ias."

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn mynd i fanteisio o gynllun gwella ansawdd sydd wedi ennill gwobrau, sy'n barod wedi'i gyflwyno yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd, yn ogystal ag ysbytai cymuned sy'n helpu staff a chleifion i nodi siaradwyr Cymraeg yn hawdd.

Bydd y cynllun, sy'n cael ei gyflwyno yn yr ysbyty'r wythnos nesa, yn helpu i nodi cleifion ac ymwelwyr sy'n well ganddynt gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae astudiaethau'n dangos bod cyfathrebu â chleifion yn eu hiaith gyntaf yn arwain at ddealltwriaeth a chanlyniadau gwell o ran y gofal a'r driniaeth maent yn eu derbyn.

"Bydd y sticeri a'r magnetau oren sydd yn awr yn cael eu defnyddio ar nodiadau ac wrth ymyl gwelyau cleifion yn eu helpu i nodi pa aelodau o staff sy'n gallu siarad â nhw yn y Gymraeg. 

"Rwy'n meddwl ei fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn os ydych yn gwybod os yw rhywun yn gallu siarad Cymraeg gan ei fod yn golygu y gallwch siarad Cymraeg yn gyntaf ar unwaith. 

"Mae gennym lawer o gyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn y Bwrdd Iechyd a byddwn yn annog unrhyw un sy'n dymuno dysgu'r iaith i roi cynnig arni. 

"I mi'n bersonol mae'n gwrtais i ddysgu ychydig o iaith y wlad rydych yn byw ac yn gweithio ynddi," ychwanegodd Dr McAndrew.

Dywedodd Eleri Hughes-Jones, Pennaeth Gwasanaethau'r Gymraeg:  "Mae'n wych gweld Uwch Feddyg Ymgynghorol sydd wedi dysgu Cymraeg er mwyn siarad â chleifion yn eu mamiaith.  Mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'r gofal a'r driniaeth a ddarperir i'r cleifion. 

“Mae'r Bwrdd Iechyd yn cefnogi ei staff i ddysgu Cymraeg drwy ein Tiwtor y Gymraeg mewnol.  Mae ein Wythnos y Gymraeg flynyddol yn gyfle gwych i ddathlu ymdrech ac ymrwymiad ein staff o ran darparu gwasanaethau Cymraeg i'n cleifion."