Neidio i'r prif gynnwy

Mam ifanc i fabi bach y mae arno angen trawsblaniad iau yn annog trafodaeth am roi organau

Mae mam i fabi bach sy'n aros am drawsblaniad iau yn galw ar bobl i siarad â'u teuluoedd am roi organau wrth i fwy na 6,500 o bobl aros am drawsblaniad ar hyn o bryd ledled y DU.

Cafodd Dylan Serrano Ramirez ddiagnosis Atresia'r Bustl, rhwystr yn y tiwbiau sy'n cludo bustl o'r iau i'r goden fustl, pan oedd ond yn naw wythnos oed.

Disgrifiodd ei fam, Nelitza Ramirez Serrano, yr eiliad dorcalonnus pan wnaeth meddygon roi gwybod iddi hi a'i gŵr, Manuel, y byddai ar eu babi bach angen llawdriniaeth i achub ei fywyd. 

Dywedodd: "Pan gafodd Dylan ei eni, roedd yn debyg i unrhyw fabi bach iach arall, ond yn anffodus, daliodd haint yn ystod mis cyntaf ei fywyd. 

"Ar ôl cael nifer o brofion, cawsom wybod ei fod wedi cael diagnosis Atresia'r Bustl, a oedd yn golygu bod angen i Dylan gael llawdriniaeth i achub ei fywyd - ni allwn i gredu bod fy mabi mor fach a bod rhaid iddo fynd trwy lawdriniaeth mor fawr.

"Yn ffodus, gwnaeth oroesi ond mae'r niwed a achoswyd gan yr haint yn golygu bod angen trawsblaniad iau arno erbyn hyn neu fel arall, mae'n bosibl y bydd ond yn goroesi am nifer o fisoedd."

Mae Neli, sy'n Nyrs Gofal Critigol yn Ysbyty Gwynedd, yn gweithio'n agos gyda Nyrsys Arbenigol Rhoi Organau yn y Bwrdd Iechyd yn ei gwaith o ddydd i ddydd ac mae hi wedi gweld y sgyrsiau diwedd oes anodd hynny gyda theuluoedd yn ymwneud â rhoi organau.

 "Mae Wythnos Rhoi Organau eleni yn arbennig o bwysig i mi, gan ei bod yn wythnos sy'n dathlu rhodd bywyd.

"Trwy rannu fy stori, rydw i'n gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth y gall rhoi organau ei wneud i rywun a theuluoedd, yn debyg i'm teulu fy hun.

"Yn fuan, bydd Dylan yn ymuno â'r rhestr aros am drawsblaniad - rydw i'n awyddus iddo gael ail gyfle mewn bywyd ac i fod yn fabi bach iach a hapus fel yr oedd pan ddaeth i'n bywydau saith mis yn ôl.

"Bob dydd ar draws y DU, mae miloedd o gleifion a'u teuluoedd, sy'n aros am yr alwad hollbwysig honno a allai achub eu bywydau a byddwn ni'n un ohonynt yn fuan iawn. Eto i gyd, mae hyn ond yn bosibl yn aml gan fod teulu arall wedi derbyn y newyddion anoddaf y gallai fod angen iddynt ei glywed fyth.

"Mae ein sefyllfa drist wedi tanlinellu pwysigrwydd rhoi organau felly rydw i'n annog holl aelodau'r teulu o bob oed i gymryd eiliad yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth hon i gofrestru ac i rannu eich penderfyniad gyda'ch teulu," ychwanegodd Neli.

I nodi dechrau’r wythnos ymwybyddiaeth, cafodd yr Eglwys Farmor gothig ym Modelwyddan ei goleuo'n binc a daeth aelodau o staff, teuluoedd y sawl sydd wedi rhoi rhodd bywyd a'r sawl sy'n dal i aros am drawsblaniad ynghyd i wylio'r seremoni oleuo emosiynol. Caiff yr eglwys ei goleuo eto nos Sul, 2 Hydref, rhwng 7pm a 10pm i nodi diwedd yr wythnos ymwybyddiaeth.

Dywedodd Abi Roberts, Nyrs Arbenigol mewn Rhoi Organau: "Roedd yn bleser i ni weld ein cydweithwyr a theuluoedd rhoddwyr a'r rhai sy'n dal i aros am drawsblaniadau'n dod ynghyd y tu allan i'r Eglwys Farmor ar ddechrau’r wythnos ymwybyddiaeth eleni.

"Roedd yn hynod emosiynol gweld aelodau teulu rhoddwyr yn cymryd eiliad arbennig i gofio am eu hanwyliaid.

"Y brif neges rydym am ei chyfleu yr wythnos hon yw pwysigrwydd siarad ag aelodau eich teulu am roi organau.

"Mae'n hynod bwysig bod teuluoedd yn gwybod am ddymuniadau eu hanwyliaid er mwyn rhoi sicrwydd iddynt gefnogi eu penderfyniad ar adeg mor anodd.

"Mae rhoi organau'n benderfyniad personol iawn, ni all fyth leddfu gofid teulu sydd mewn profedigaeth ond gall arwain at drawsnewid bywydau pobl eraill a'u teuluoedd, fel yn achos teulu Neli."

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich penderfyniad, ewch i Gofrestr Rhoi Organau'r GIG ar www.organdonation.nhs.uk a rhannwch eich penderfyniad gyda'ch teulu. Gall y sawl sy'n defnyddio ap y GIG, hefyd ei ddefnyddio i gofnodi, gwirio neu ddiwygio eu manylion neu eu penderfyniad.