02.08.23
Gallai ystafell hyfforddi newydd haneru cyfanswm yr amser sydd ei angen i addysgu cleifion sydd â chlefyd cronig yr arennau i gynnal dialysis yn y cartref.
Mae'r cyfleuster dau wely ar gyfer cleifion allanol yn adran arennol Ysbyty Glan Clwyd wedi'i agor yn swyddogol heddiw (2 Awst, 2023) ac mae staff a chleifion wedi croesawu'r datblygiad.
Cyn datblygu'r cyfleuster, roedd yn rhaid defnyddio prif uned dialysis yr arennau yr ysbyty i ddangos i'r sawl a oedd yn addas ar gyfer dialysis yn y cartref sut i'w dialysu hwy eu hunain.
Roedd hi'n amhersonol ac yn brysur yno, ac roedd y lle ar gael i gleifion am dair sesiwn yr wythnos yn unig.
Mae'r ystafell newydd ar gael bum diwrnod yr wythnos, mae'n caniatáu mwy o amser cyswllt un ac un gyda chleifion, ac yn sgil y cyfleuster newydd, bydd amserlenni hyfforddi yn para dau neu dri mis yn hytrach na rhwng pedwar a phum mis.
Un o'r cleifion cyntaf i brofi buddion yr ystafell newydd yw Davina Zanni, sy'n 79 mlwydd oed ac yn byw yng Nghyffordd Llandudno.
Meddygaeth Arennol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Dywedodd: “Mae'r hyfforddiant wedi bod yn hollol wych. Mae'r staff yma'n rhagorol a dw i wedi cael gofal da.
“Os na fyddaf yn deall unrhyw beth, rwy'n gwybod y gallaf ofyn i'r staff, a byddan nhw'n esbonio'r cyfan i mi.
“Mae cael ystafell benodedig i gynnal yr hyfforddiant yn llawer iawn gwell. Pan fyddwch yn y brif ystafell dialysis, efallai byddwch yn clywed synau peiriannau eraill yn bipian ac yn cael eu defnyddio.
“Felly, pan fydd angen i chi ganolbwyntio ar eich pen eich hun, bydd yn hwylus cael bod yn yr ystafell dawelach, a gall y staff hefyd egluro pethau yn fwy hamddenol ac mewn llecyn mwy digyffro.
“Ar ôl cyrraedd ddoe, nid oeddwn yn gallu gosod y nodwyddau yn iawn, felly fe wnaeth y staff hynny yn fy lle i, ond maent yn fy helpu i ddysgu, a llwyddais i wneud hynny fy hun heddiw.”
Maes o law, bydd Davina yn gallu mynd adref a bydd y Bwrdd Iechyd yn cyflenwi offer sy'n costio oddeutu £30,000 i'w helpu i fod yn fwy annibynnol.
Yn ystod y bythefnos gyntaf, bydd hi hefyd yn cael cymorth ychwanegol i'w helpu i gynefino â'i threfn newydd. Fodd bynnag, mae gwasanaeth ar-alwad penodol ar gael os bydd hi'n profi unrhyw anawsterau â'i thriniaeth.
Defnyddiwyd arian elusennol i dalu i droi'r ystafell gyfarfod flaenorol yn ystafell hyfforddi newydd.
Mae dialysis yn y cartref yn galluogi cleifion i fod yn fwy annibynnol, mae'n caniatáu mwy o hyblygrwydd i drefnu triniaethau i gyd-fynd ag oriau gwaith ac ymrwymiadau eraill, ac mae'n lleihau'r ddibyniaeth ar feddyginiaethau ychwanegol.
Canfu un astudiaeth bod 26% o gleifion a oedd yn cael triniaethau haemodialysis yn dibynnu llai ar feddyginiaethau na'r sawl a oedd yn cael dialysis mewn ysbytai.
Mae gallu cael dialysis yn amlach yn helpu cleifion sydd â chlefyd cronig yr arennau i fod yn iachach, ac mae hynny wedyn yn gwella eu posibilrwydd o gael trawsblaniad aren.
Cytunodd Davina fod rhesymau da dros allu cynnal ei thriniaeth haemodialysis gartref. Dywedodd: “Pan fyddaf yn gallu gwneud hyn gartref, bydd yn haws oherwydd ni fyddaf yn gorfod teithio i'r uned mor aml, a bydd hynny'n fuddiol i fy ngŵr, sy'n fy ngyrru i'r uned ac yn disgwyl amdanaf.”
Dywedodd Sharon Dyson, ymarferydd cynorthwyol therapïau yn y cartref: “Nid oes unrhyw fath arall o ofal yn canolbwyntio mwy ar anghenion y claf na hyn. Bydd Davina yn gallu rheoli pryd i gael dialysis.
“Mae hyn yn cynnig penrhyddid iddi ddewis pryd i gynnal y driniaeth. Os bydd hi'n brysur, gall hi gynnal y driniaeth pan fydd hi ar gael, yn hytrach na phan fydd yr uned ar agor.”
Gall yr ystafell hyfforddi dderbyn hyd at bedwar o gleifion bob dydd, dau yn y bore a dau yn y prynhawn, a bydd pob ymweliad yn para hyd at bedair awr.
Dywedodd Nicola Roberts, uwch nyrs ym maes therapïau yn y cartref, fod yr ystafell newydd i hyfforddi cleifion i gynnal therapïau yn eu cartref yn adnodd hanfodol i'r staff, ac yn bwysicach fyth, i'r cleifion hefyd.
Dywedodd: “Mae'n amgylchedd hyfforddi delfrydol iddynt, ac mae'n sicrhau y byddant yn cael y preifatrwydd, yr amser a'r lle y mae arnynt eu hangen. Yn bwysig iawn, mae hefyd yn sicrhau parhad o ran staff iddynt, ac mae'n ein galluogi ni i gael cyfle i ofalu am gleifion sy'n cael hyfforddiant.
“Mae'n dangos fod y sefydliad o ddifrif ynghylch therapïau yn y cartref ac mae wedi bod yn hwb enfawr i'r staff.”
Y safon genedlaethol yw sicrhau y caiff 30% o gleifion sydd â chlefyd cronig yr arennau driniaethau haemodialysis yn eu cartref.
Ychwanegodd Nicola: “Roedd ein canran yn llai na deg ac rydym wedi cyflawni 27% erbyn hyn. Bydd yr ystafell hyfforddi newydd yn ein helpu i gynyddu hyn ymhellach.”
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)