Neidio i'r prif gynnwy

Meddygaeth Arennol

Mae tair prif uned arennol yn BIPBC, wedi’u lleoli yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd a Ysbyty Maelor Wrecsam.

Darperir dialysis llym a chronig ar y tri safle a darperir hemodialysis cronig hefyd yn Nhremadog Ysbyty Alltwen a’r Trallwng yng Ngogledd Powys, dan oruchwyliaeth uned Wrecsam. Mae lleoliadau’r unedau’n golygu mai ychydig iawn o bobl sy’n byw yng ngogledd Cymru sy’n gorfod teithio mwy na hanner awr i gyrraedd cyfleuster dialysis a byddwn yn anelu i ddarparu dialysis gwyliau hefyd i bobl o rannau eraill o'r DU. Yn gyfan oll, mae gwasanaeth arennol BIPBC yn goruchwylio 75 gorsaf dialysis ar bum safle i boblogaeth leol o oddeutu 750,000.

Yn y tair phrif uned, ceir staff i hyfforddi cleifion ar gyfer triniaethau dialysis cartref hefyd i ddarparu cyfnewid plasma i gleifion gyda phroblemau fascwlitaidd, arennol neu niwrolegol sy'n fygythiad i fywyd.   

Ceir presenoldeb ymgynghorydd am 24 awr y dydd yn y tri safle llym. Darperir hyn gyda rota sy’n cynnwys y chwe ymgynghorydd a leolir ar y coridor gogleddol (sy'n gwasanaethu Alltwen, Bangor, Glan Clwyd) a rota ar wahân ymysg y pum ymgynghorydd sy'n darparu ar gyfer y coridor deheuol (Wrecsam, Y Trallwng).

Darperir archwiliadau cleifion gyda chlefydau arennol mewn cydweithrediad agos â’r gwasanaeth imiwnoleg a leolir yn Ysbyty Glan Clwyd a’r adran patholeg wedi’i lleoli ym Mangor. Mae sganio uwchsain ar gael yn y rhan fwyaf o glinigau ymylol, ond gwneir CT, CT Spect, MRI, angiograffi a stentiau a meddygaeth niwclear yn y tri safle llym. 

Mae mynediad at glinigau a ddarperir gan ymgynghorwyr wedi gwella’n fawr dros y tair blynedd ddiwethaf , drwy agor clinigau newydd yn Nolgellau, Tremadog, Llandudno, Bae Colwyn, Rhuthun, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Glannau Dyfrdwy a’r Trallwng.

Gall cleifion arennol gael mynediad at ddietegwyr, gweithwyr cymdeithasol a seicolegwyr clinigol penodol arbennig. Bydd nyrsys arennol arbenigol (nyrsys CKD), y rhan fwyaf gyda hawliau rhagnodi, yn helpu i nodi a rheoli cleifion gyda chlefyd arennol cynyddol mewn gofal cychwynnol ac i oruchwylio triniaeth gorbwysedd ac anemia arennol yn y grŵp risg uchel hwn. Y nod yw atgyfeiriadau amserol ar gyfer rhagatal trawsblaniadau neu ddialysis.