Neidio i'r prif gynnwy

Seiciatrydd blaenllaw yn gwahodd cyflogwyr i ymuno â sgwrs agored am iechyd meddwl dynion

Mae un o seiciatryddion mwyaf blaenllaw Gogledd Cymru yn annog pobl i fanteisio ar ddigwyddiad GIG rhad ac am ddim sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl dynion yn y gweithle.

Mae Dr Alberto Salmoiraghi, Seiciatrydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol gyda Bwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dweud bod y sesiwn fer ('Bite Size') Iechyd a Lles y bydd yn ei Chadeirio ar 24 Tachwedd yn rhan o ymdrechion i wneud iechyd meddwl dynion yn 'bwysig i bawb'.

Mae'r digwyddiad rhithwir yn agored i unigolion a chyflogwyr sydd am gael gwell dealltwriaeth o sut i gefnogi dynion i ofalu am eu hiechyd meddwl yn y gwaith.

Bydd yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda phanel arbenigol sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol y GIG a chynrychiolwyr o fusnesau, elusennau iechyd meddwl a sefydliadau trydydd sector eraill. Bydd panelwyr hefyd yn rhannu eu profiadau personol eu hunain o'r hyn sydd wedi eu helpu i ofalu am eu hiechyd meddwl a'u lles.

“Mae iechyd meddwl dynion yn bwysig i bawb ac rydyn ni’n gwybod bod gan gyflogwyr ran allweddol i’w chwarae wrth gefnogi eu gweithwyr gwrywaidd i gadw’n iach yn feddyliol tra yn y gwaith,” esboniodd Dr Salmoiraghi.

“Rydym yn gobeithio y bydd y sesiwn rithwir hon yn helpu pobl i gael gwell dealltwriaeth o strategaethau ymdopi a’r ystod o gymorth sydd ar gael i unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd.

“Mae’r ystadegau am iechyd meddwl dynion yn llwm. Mae tair gwaith cymaint o ddynion yn marw o ganlyniad i hunanladdiad na merched ac mae dynion yn gyffredinol yn adrodd lefelau boddhad bywyd is. Mae dynion yn llai tebygol o gael mynediad at therapïau siarad y GIG ac yn fwy tebygol o ddod yn ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol. Mae’n hanfodol felly ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod dynion yn gwybod sut i gadw’n iach yn feddyliol a’u bod yn cael cymorth priodol os ydynt yn ei chael hi'n anodd.”

Y digwyddiad rhithwir ar 24 Tachwedd rhwng 12:30 a 14:00 yw’r diweddaraf yng nghyfres sesiynau byr ynglŷn ag Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

I gofrestru ewch i Eventbrite neu cysylltwch â Sandra Anderson o Dîm Ymgysylltu â'r Cyhoedd BIPBC ar Sandra.anderson2@wales.nhs.uk.

Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru, C.A.L.L, ar gael i ddarparu cymorth emosiynol cyfrinachol 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

Ffôn: 0800 132 737
Anfonwch neges destun yn dweud 'help' i: 81066
Gwefan:
Llinell Gymorth C.A.L.L