Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carol Shillabeer wedi ei phenodi fel Prif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

14/11/23

Mae Carol yn ei swydd fel Prif Weithredwr dros dro ers Mai 2023 a bydd yn dechrau yn y rôl barhaol yn ffurfiol gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd y penodiad yn arwain at ddilyniant arwain i'r sefydliad ac yn cynnal deinameg newydd y Bwrdd i weithio tuag at sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn symud oddi wrth fesurau arbennig ac yn datblygu cynlluniau uchelgeisiol a'u gwireddu ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Carol: "Mae'n bleser ac yn anrhydedd o fod wedi cael fy mhenodi fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn y cyfnod byr yr ydw i wedi bod yma, rydw i wedi gweld ymrwymiad cryf gan gydweithwyr a phartneriaid fel ei gilydd i wneud gwelliannau ac i ddarparu'r gwasanaethau y mae pobl Gogledd Cymru yn eu disgwyl a'u haeddu.

"Mae llawer o newidiadau wedi cael eu gwneud yma dros y blynyddoedd diwethaf ac rydw i'n hyderus y byddwn yn creu'r arweinyddiaeth a'r diwylliant cywir i ddarparu'r sefydlogrwydd a'r hyder sydd arnom eu hangen i fynd â'r sefydliad i'r cyfeiriad cywir.

"Rydw i'n gwybod ein bod ni'n wynebu heriau sylweddol ac rydw i'n ymrwymedig i gydweithio â staff, partneriaid a chymunedau er mwyn ein helpu i'w goresgyn gyda'n gilydd wrth i ni symud ymlaen.

"Fy ngwaith i, gyda'r Bwrdd, yw sicrhau bod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol ac mae gennym ni uchelgeisiau pendant i wneud hynny. Rydw i'n edrych ymlaen at allu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion a'n staff, ac mae gan bob un ran bwysig i'w chyflawni o ran dyfodol ein GIG yng Ngogledd Cymru."

Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydw i'n hynod falch bod Carol wedi penderfynu derbyn y rôl fel ein Prif Weithredwr ac rydw i am ei chroesawu hi at y Bwrdd Iechyd ar sail barhaol.

"Rydw i wedi cael y cyfle i weithio gyda Carol ers mis Mai ac rydw i'n credu bod ei phrofiad eang o arweinyddiaeth, datblygu sefydliadol a gweithio mewn partneriaeth yn golygu mai hi yw'r unigolyn cywir i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn gallu bod yn y sefyllfa y dylai fod ynddi.

"Mae Carol eisoes wedi cael effaith sylweddol ers ymuno â ni dros dro ac mae'r penodiad hwn yn rhoi'r sefydlogrwydd sydd ei angen arnom er mwyn parhau i roi gwelliannau ar waith i'n cymunedau, ein staff a'n partneriaid."

Mae Carol yn gadael ei swydd bresennol fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, yr ymgymerodd â hi ym mis Mawrth 2015 ar ôl ymuno â'r bwrdd iechyd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio yn 2009. Mae hi'n nyrs gofrestredig sydd â chefndir mewn swyddi clinigol a rheolaethol uwch gyda gwasanaethau menywod a phlant, iechyd meddwl a meddygaeth gyffredinol. Mae gan Carol gefndir eang o ran gweithio mewn partneriaeth a datblygu sefydliadol hefyd, ac mae'n ymrwymedig i weithio gyda staff, partneriaid a chymunedau i lywio canlyniadau gwell ac i'w gwireddu.

Carol oedd Aelod Cymru gynt ac Is-gadeirydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, rheoleiddiwr y DU dros nyrsio a bydwreigiaeth. Hi oedd Cadeirydd Rhaglen Frechu COVID-19 Cymru, a bu'n Gadeirydd y Llywodraeth yn noddi Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc gan arwain dulliau o wella lles emosiynol ac iechyd meddwl i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Carol yw'r Prif Swyddog Gweithredol yn GIG Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl, Iechyd Menywod, a than yn ddiweddar, Gofal Cymunedol a Gofal Cymhleth. Mae gan Carol MSc mewn Rheoli'r Gwasanaeth Iechyd o Brifysgol Caerdydd ac mae'n gyn-Ysgolor Arweinyddiaeth Sefydliad Florence Nightingale.