Neidio i'r prif gynnwy

Mae ap newydd i drawsnewid y ddarpariaeth o ofal dementia wedi'i greu yng Ngogledd Cymru

Mae ap digidol newydd, rhad ac am ddim wedi’i greu er mwyn helpu i ddarparu mwy o amgylcheddau gofal sy’n ystyriol o ddementia a chefnogi cleifion bellach yn fyw ar ôl cael ei ddatblygu a'i brofi yng Ngogledd Cymru.

Gweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gydag arbenigwyr o Brifysgol Caerwrangon i greu’r ap, a fydd yn disodli'r offeryn asesu papur presennol sy’n cael ei ddefnyddio wrth asesu pa mor ystyriol yw’r amgylcheddau gofal o ddementia.

Mae'r ap ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg a'i nod yw helpu staff iechyd a gofal ynghyd â phobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr i asesu a gwella amgylcheddau gofal i bobl sy'n byw gyda dementia. Mae'r offer ar gael ar gyfer wardiau, ysbytai, cartrefi gofal, tai â chymorth, canolfannau iechyd a gerddi/mannau awyr agored.

Cyflwynwyd yr ap newydd hwn i staff y Bwrdd Iechyd ddoe yn ystod ddiwrnod astudio yn Ysbyty Gwynedd (dydd Llun, 4 Medi).

Dywedodd yr Athro Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia ac Athro Anrhydeddus Ymgysylltu â Chleifion a Theuluoedd: “Mae'r Tîm Gwella Dementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi mwynhau gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu cyfres o apiau amgylcheddol.

“Mae'r gwaith wedi ategu at ein huchelgeisiau digidol ac rydym yn croesawu pa mor hawdd yw'r apiau hyn i'w defnyddio a fydd o ganlyniad, yn arbed amser i staff, yn fodd i ddatblygu sgiliau digidol ac yn golygu bod mwy o gyfrifiaduron ar gael. Bydd yr ap hefyd yn cael ei ddefnyddio fel offer dysgu gwerthfawr gyda staff a myfyrwyr gan ein bod yn cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau mannau dan do a gerddi y tu allan i gleifion.

“Rydym yn falch bod yr ap wedi’i ddatblygu yng Ngogledd Cymru, bod yr offer asesu bellach ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf ac y byddant ar gael yn rhwydd yn fyd-eang.”  

Sarah Waller CBE, Arbenigwr Cyswllt o'r Gymdeithas Astudiaethau Dementia ym Mhrifysgol Caerwrangon, fu’n arwain datblygiad y rhaglen ‘Gwella’r Amgylchedd Iachau’ (EHE) Cronfa’r Brenin yn y gorffennol. Roedd hyn yn annog ac yn galluogi timau dan arweiniad nyrsys i weithio mewn partneriaeth â chleifion i wella'r amgylchedd ble maent yn darparu gofal.

Dywedodd Sarah: “Mae'r ap yn galluogi lawrlwytho canlyniadau'r asesiadau i alluogi cymhariaeth llawer haws o'r sgoriau ar draws amrywiaeth o amgylcheddau gofal. Mae staff clinigol o'r Bwrdd Iechyd wedi gwneud sylw o ran pa mor hawdd yw'r ap i'w ddefnyddio o’i gymharu ȃ phapur”.

“Bellach, mae tystiolaeth gynyddol yn profi gall dylunio amgylchedd gofal sy’n ystyriol o ddementia hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth ac ansawdd bywyd gwell i bobl sy'n byw gyda dementia.

“Gwyddom fod canlyniadau’r asesiadau wrth ddefnyddio'r offer wedi arwain at welliannau yn yr amgylchedd gofal i bobl sy'n byw gyda dementia, eu perthnasau a'r staff sy'n gofalu amdanynt. Rydym yn ddiolchgar i'r Bwrdd Iechyd am ariannu'r prosiect hwn, gan wneud yr offer yn fwy hygyrch ac yn haws i'w defnyddio”.

Mae’r ap wedi’i ddatblygu gan arbenigwyr yng Nghymdeithas Astudiaethau Dementia Prifysgol Caerwrangon, ynghyd â'r asiantaeth ddigidol greadigol o’r enw Crystal a gyda chyllid a chefnogaeth gan y Bwrdd Iechyd

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho o wefan Prifysgol Caerwrangon yma,  lle mae'r offer gwreiddiol papur y seiliwyd yr ap arnynt ar gael o hyd.