Neidio i'r prif gynnwy

Llawfeddyg Ysbyty Maelor Wrecsam yn perfformio triniaeth lawfeddygol laser 'carreg boeth' gyntaf

08/08/2023

Am y tro cyntaf yng Ngogledd Cymru, mae’r timau Wroleg a’r Theatr Llawdriniaethau wedi perfformio llawdriniaeth frys ‘poeth’ ar gyfer cerrig ar yr arennau gan ddefnyddio triniaeth lawfeddygol laser ar flaen y gad.

Fel arfer, byddai claf ȃ cherrig ar yr arennau yn derbyn gweithred i osod stent fel mesuriad dros dro i leihau poen a haint, cyn gorfod dychwelyd am ail lawdriniaeth i dynnu’r cerrig.

Mae’r weithred ‘carreg boeth’ newydd hon yn golygu y bydd y cerrig yn cael eu tynnu mewn un weithred fer gan arwain at driniaeth ac adferiad cyflymach heb orfod treulio cymaint o amser yn yr ysbyty.

Dywedodd yr Athro Iqbal Shergill, Arweinydd Clinigol Wroleg yn Ysbyty Maelor Wrecsam: Mae’r llawdriniaeth ‘carreg boeth’ yn golygu bod cleifion yn cael eu trin yn gyflym ac yn effeithlon mewn un weithred fer, gan roi gwell siawns iddynt wella'n gyflymach, gyda llai o amser yn yr ysbyty.

“Mae’r llawdriniaeth laser newydd yn ganlyniad i raglen gwelliant y gwasanaeth, yn dilyn canllawiau cenedlaethol ‘Gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf’ (GIRFT). Byddwn yn anelu at gyflwyno'r driniaeth hon a gymeradwywyd gan GIRFT i weddill Gogledd Cymru yn fuan."

Mae’r weithred yn llawdriniaeth twll clo dan anesthesia cyffredinol byr, gan ddefnyddio camera bach calibr sy’n cael ei basio i mewn i'r bledren ac yna i'r wreter, er mwyn dod o hyd i'r garreg ar yr arennau sydd wedyn yn cael ei laseru gan ddefnyddio ffibr bach a basiwyd i lawr drwy'r camera.

Dywedodd Kelly Moody, y Nyrs Arwain ar gyfer llawdriniaethau wroleg laser brys: "Mae'n werth chweil cael bod yn rhan o yrru hyn yn ei flaen, gyda'n holl dîm nyrsio. Trwy wella'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu, bydd y cleifion yn elwa'n sylweddol trwy leihau eu hamser yn yr adran cleifion mewnol ac osgoi’r angen am ail lawdriniaeth. Mae staff y theatr i gyd yn awyddus i helpu a chefnogi'r gwasanaeth hwn i'n cleifion."

Roedd y Brif Nyrs Rachel Lines, Swyddog Diogelwch Laser ac Uwch Nyrs mewn theatrau wroleg hefyd yn barod iawn ei chefnogaeth. Dywedodd: “Rydym wedi arwain y ffordd yng Ngogledd Cymru gyda llawdriniaethau dewisol â laser arloesol ar gyfer cleifion cerrig ar yr arennau a chleifion y prostad. Roeddwn yn falch iawn o gefnogi'r tîm brys i gyflawni'r weithred gyntaf hon ac rwy'n hyderus y gallwn barhau i wella gofal ar gyfer cleifion yr adran wroleg a’r theatr yn y dyfodol.”