Neidio i'r prif gynnwy

Lansio gwasanaeth newydd i helpu lleihau nifer y marwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i orddos cyffuriau.

31, Awst 2023

Mae gwasanaeth Clicio a Chyflenwi newydd wedi'i lansio i roi mynediad at Naloxone, sef meddyginiaeth achub bywyd a all wrthdroi effeithiau gorddos opioid, dros dro.

Gall unrhyw un yng Nghymru gael mynediad at y gwasanaeth drwy wefan DAN 24/7. Llinell gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru gyfan yw DAN 24/7, ac fe'i cynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae Naloxone yn gweithio trwy wrthdroi effeithiau opioidau fel Heroin, Methadone neu Buprenorphine dros dro. Mae'r gwasanaeth Clicio a Chyflenwi yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â Naloxone, a phryd a sut i'w ddefnyddio.

Mae dolen hyfforddi ar y wefan, ac ar ôl cwblhau'r hyfforddiant, gall unigolion archebu eu pecyn achub bywyd Naloxone eu hunain. Mae’r pecyn ar gael i unrhyw un sy'n byw yng Nghymru a chaiff ei anfon am ddim.

Dywedodd Luke Ogden, Rheolwr Gwasanaethau Llinell Gymorth DAN 24/7: “Mae adroddiad blynyddol 2021/22 ar farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn nodi mai gwenwyno damweiniol oedd achos mwyaf cyffredin y marwolaethau a gofrestrwyd yn 2021, sef 87 y cant. 

“Heroin/morffin oedd y sylwedd mwyaf cyffredin a gofnodwyd mewn marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru, a hynny mewn 44 y cant o’r marwolaethau.

“Mae modd atal gorddos opioid. Trwy wella mynediad at Naloxone, rydym yn gobeithio y bydd pobl, gan gynnwys y rhai sydd mewn perygl o orddos, eu teuluoedd a’u ffrindiau, a gweithwyr proffesiynol a all fod yn dystion i orddos opioid, yn cario Naloxone ac yn gallu ei ddefnyddio i achub bywyd mewn argyfwng.

“Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae DAN 24/7 yn gwneud Naloxone yn fwy hygyrch i bobl Cymru.”

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan DAN 24/7 yma.