Neidio i'r prif gynnwy

15/09/2023

Mae wyth o interniaid wedi dechrau ar eu rolau newydd gyda Chyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y mis hwn i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad.

Mae prosiect SEARCH yn interniaeth 12 mis ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau dysgu neu awtistiaeth sy’n gadael addysg, a wnaed yn bosibl drwy gyllid gan Gyngor Sir y Fflint, fel rhan o gydweithrediad gyda’r Bwrdd Iechyd.

Cynhaliodd y prosiect ddigwyddiad croesawu yn Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy cyn i’r interniaid ddechrau eu rolau newydd, er mwyn iddynt gyfarfod ei gilydd yn ogystal â’u teuluoedd ac aelodau o staff y byddant yn gweithio gyda nhw.

Dywedodd Neil Ayling, prif swyddog Cyngor Sir y Fflint ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol: “Nid yw pobl ag anableddau dysgu bob amser yn cael yr un cyfleoedd cyflogaeth â phawb arall, felly mae mentrau fel prosiet SEARCH yn hanfodol.

“Rydw i wrth fy modd yn croesawu’r oedolion ifanc hyn i Gyngor Sir y Fflint a rhoi profiad gwaith go iawn iddynt y gallant ei ddefnyddio i sicrhau cyflogaeth barhaol.”

Prif nod Prosiect SEARCH yw sicrhau cyflogaeth gystadleuol. Yn genedlaethol, mae graddfa diweithdra ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu/awtistiaeth oddeutu 90 y cant, mae prosiect SEARCH yn cefnogi datblygiad sgiliau ac ymddygiadau sy’n cynorthwyo’r oedolion ifanc hyn i gyflogaeth ystyrlon â thâl.

Dywedodd Michelle Greene, Cyfarwyddwr Ysbyty Cymuned Integredig y Dwyrain: “Rwyf wrth fy modd bod ardal y Dwyrain o’r Bwrdd Iechyd yn awr yn cynnig y prosiect gwych hwn, mae hi wir yn bwysig ein bod yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc a all fod angen y cymorth ychwanegol hwnnw i ymuno â’n gweithlu. Roedd yn hyfryd cwrdd â’n interniaid newydd a’u teuluoedd yn ein digwyddiad croesawu, gan roi iddynt y cyfle i gwrdd â’i gilydd ac aelodau o’r staff cyn dechrau eu hinterniaeth.

“Yng Nghymru, bydd llai na 5% o’r oedolion ifanc hyn mewn cyflogaeth â thâl, mae gan y Bwrdd Iechyd raddfa llwyddiant o 70% hyd yma gyda swyddi wedi eu sicrhau yn fewnol ac allanol, sy’n brawf bod y rhaglenni hyn wir yn gweithio.”

Bydd yr interniaid yn cwblhau hyd at dri chylchdro yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dysgu sgiliau mewn amrywiol rolau sy’n cyfateb iddynt. Byddant yn cael eu cynorthwyo gan diwtor swydd a hyfforddiant swydd, yn ychwanegu sgiliau a thasgau ar hyd y ffordd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Christine Jones, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol: “Mae hi’n bleser cynorthwyo’r prosiect bendigedig hwn sydd bob blwyddyn yn arddangos talent ein pobl ifanc leol ag anableddau dysgu. Rydym yn ymroddedig yn Sir y Fflint i sicrhau bod pawb â’r cyfle i ganfod swydd, ennill cyflog, datblygu eu sgiliau a bod yn rhan o’r gymuned. Dymunwn bob lwc iddyn nhw yn ystod eu hinterniaeth ac yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”

Dyma’r flwyddyn gyntaf iddo gael ei lansio yn Sir y Fflint, yn flaenorol mae interniaid wedi rhagori yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd, mewn rolau megis Cynorthwyydd Ward, Gweinyddol, Domestig, Arlwyo, Porthora, Fferylliaeth.

Roedd Angharad yn intern Prosiect SEARCH y flwyddyn ddiwethaf ac mae hi newydd raddio. Mae Angharad wedi ei recriwtio yn llwyddiannus i Ward 1 yn Ysbyty Glan Clwyd fel Prentis Cynorthwyydd Cymorth Gofal Iechyd a Rennir.

Dywedodd: “Roeddwn i’n teimlo’n nerfus ar y dechrau, ond mae’r staff wedi gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus i fod yn annibynnol. Rydw i ar ben fy nigon ynghylch fy mhrentisiaeth a hoffwn weithio fy ffordd tuag at wisg las.”