Neidio i'r prif gynnwy

Fedra i: Hybiau cymunedol

Siaradwch am eich problemau dros baned. Byddwn ni'n gwrando heb farnu, ac yn eich helpu i gael mynediad i'r gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnoch.

Gellir defnyddio ein Hybiau Fedra’ i drwy alw heibio, felly does dim angen cyfeiriad arnoch gan eich meddyg teulu nac apwyntiad chwaith. Gallwch gael cefnogaeth a chyngor ar amryw faterion a allai fod yn eich poeni, gan gynnwys dyled, tor-perthynas, problemau cyffuriau neu alcohol, trafferthion cyflogaeth, profedigaeth, tai ac unigrwydd.

Os ydych chi'n cael pethau’n anodd, am ba bynnag reswm, peidiwch oedi cyn cysylltu. Mae'r tegell wastad ymlaen ac mae ein tîm cyfeillgar a phrofiadol o staff a gwirfoddolwyr yma i'ch helpu i fynd yn ôl ar y trywydd iawn.

Ynys Môn
Sir y Fflint
Conwy
Sir Ddinbych
Gwynedd
Wrecsam