Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau

Gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod gennym ni.

Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Hunan Laddiad Fedra'i

Mae’r cwrs hanner diwrnod yn trafod:

  • Arwyddion a symptomau nifer o gyflyrau sy’n ymwneud a iechyd meddwl
  • Arwyddion a symptomau nifer o gyflyrau a sefyllfaoedd sy’n rhoi effaith negyddol ar ein iechyd emosiynol a lles
  • Sut i adnabod symptomau hunan niweidio
  • Sut i adnabod bod unigolyn mewn peryg o hunanladdiad
  • Sut i ymateb i unigolyn sy’n datgelu eu bod yn meddwl am hunanladdiad / cynllunio eu hunanladdiad
  • Sut i edrych ar ol eich iechyd emosiynol eich hun a datblygu gwydnwch cymdeithasol
  • Gwybodaeth ychwanegol ac arallgyfeirio

Mae’r cwrs yn addas i gwmniau, grwpiau cymunedol ac unigolion, a gallwn ei redeg yn eich gweithle neu mewn adnodd cymunedol.

Dyddiadau a dolenni cadw lle Eventbrite ar gyfer sesiynau hyfforddiant:

I drafod y posibilrwydd o gael hyfforddiant wedi ei gyflwyno yn eich gweithle neu adnodd cymunedol lleol, e-bostiwch BCU.ICan@wales.nhs.uk.