Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiwr gofal iechyd yn gobeithio arwain tim golff merched Cymru at fuddugoliaeth ar ôl brwydr hir gyda Chlefyd Crohn

04.07.22

Mae gweithiwr gofal iechyd o Ysbyty Gwynedd yn gobeithio arwain tîm ei wlad at fuddugoliaeth yr wythnos hon ym Mhencampwriaeth Golff Ewrop y Merched yng Nghonwy.

Roedd Laura Roberts, sy'n gweithio yn yr ysbyty ers dros ddeng mlynedd, wedi gobeithio dilyn ysgoloriaeth golff yn America bymtheg mlynedd yn ôl pan oedd hi'n ond yn 18 oed. Yn anffodus, nid oedd yn gallu gwireddu ei breuddwyd am iddi fynd yn sâl iawn oherwydd Clefyd Crohn.

Mae clefyd Crohn yn fath o afiechyd llidiol o'r coluddyn (IBD). Mae'n achosi llid i'r llwybr treulio, sy'n gallu arwain at boen yn yr abdomen, dolur rhydd difrifol, gorflinder, colli pwysau a diffyg maeth.

Treuliodd Laura'r rhan fwyaf o'i hugeiniau cynnar fel claf mewnol yn Ysbyty Gwynedd oherwydd difrifoldeb ei chyflwr ac unwaith yr oedd yn ddigon iach i gael ei rhyddhau, gwnaeth hi barhau gyda gyrfa ym maes gofal iechyd a bu'n gweithio ar Uned Strôc yr ysbyty am 12 mlynedd.

"Roeddwn wedi chwarae golff amaturaidd am flynyddoedd lawer pan oeddwn i yn fy arddegau a chefais y cyfle i fynd draw i America i ddilyn ysgoloriaeth a oedd yn gyfle anhygoel i mi.

"Yn anffodus, cefais ddiagnosis Clefyd Crohn ac es i'n sâl iawn ac roedd angen gofal ysbyty arnaf. Nid oedd modd i mi fynd i America ar unrhyw gyfrif, ni fyddwn i wedi gallu fforddio yswiriant iechyd ac roeddwn i'n rhy sâl," meddai.

Gwnaeth Laura, 33 oed, roi'r gorau i chwarae golff yn gyfan gwbl yn dilyn ei diagnosis ond y llynedd, penderfynodd ailafael yn ei diléit unwaith eto ac mae'n gobeithio chwarae mewn twrnameintiau golff y sir y flwyddyn nesaf.

Bellach, mae'r fam i ddau yn gapten ar dîm Cymru ym Mhencampwriaeth Golff Ewrop y merched yr wythnos hon.

Dywedodd: "Rydw i mor falch i gynrychioli fy ngwlad, nid oeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n cael cyfle i gymryd rhan mewn rhywbeth fel hyn eto.

"Mae byw gyda Chlefyd Crohn yn frwydr bob dydd i mi, rydw i wedi cael rhai diwrnodau tywyll iawn ers cael y diagnosis.

"Mae fy niwrnodau'n cynnwys amseru pryd rydw i'n gallu bwyta, ond rydw i wedi dysgu i fyw gyda hynny a'r boen o ddydd i ddydd, nid yw'r clefyd yma yn fy niffinio i ac roeddwn i'n gwybod y byddai diwrnodau gwell i ddod.

"Rydw i'n onest am fy nghyflwr ac mae codi ymwybyddiaeth fel y gall eraill ddeall mwy amdano yn agos iawn at fy nghalon i.

"Rydw i wedi cael cyfnodau pan oeddwn i'n teimlo fel methiant ond rydych yn dod trwy hyn ac rydw i'n gobeithio y bydd fy stori'n helpu eraill sy'n byw gyda'r clefyd hwn ac yn rhoi gobaith iddynt y gallwch barhau i fyw bywyd normal a gwireddu eich breuddwydion.

"Rydw i wedi bod yn lwcus i fod â chydweithwyr gwych ac wrth gwrs, fy nheulu, sydd wedi bod yn gefn i mi - yn enwedig fy chwaer fach, sydd wastad wedi fy nghefnogi i'n selog. Rydw i'n gobeithio eu gwneud nhw i gyd yn falch yr wythnos hon ac i ddod â'r tlws adref i Gymru!"