Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau'n parhau yn ôl yr arfer yng Nghanolfan Feddygol West End

05.10.2023

Mae staff yng Nghanolfan Feddygol West End, Bae Colwyn, yn awyddus i roi tawelwch meddwl i gleifion ar ôl i Aelod Lleol o'r Senedd awgrymu eu bod yn cael "eu hannog i gadw draw" o'r practis.

Ddydd Mercher, 27 Medi, a dydd Llun, 2 Hydref, roedd cyfnodau o salwch, ynghyd ag absenoldeb salwch hirdymor a swyddi gwag, yn golygu bod prinder staff yn y practis.

Yn unol â pholisi ac arfer gorau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gofynnwyd i gleifion nad oedd arnynt angen brys i weld meddyg teulu fanteisio ar wasanaeth GIG 111 ar-lein neu i ffonio gwasanaethau, neu geisio cyngor gan eu fferyllydd lleol mewn perthynas â salwch llai difrifol.

Yn achos y rhai sydd â chyflyrau sy'n bygwth bywydau neu anafiadau difrifol, dylid ffonio 999 yr un fath a gofyn am Ambiwlans.

Dywedodd Libby Ryan-Davies, cyfarwyddwr gweithrediadau Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Canol: "Mae gwasanaethau yng Nghanolfan Feddygol West End wedi dychwelyd i'r drefn arferol erbyn hyn. Mae'n hollol anghywir dweud ein bod yn gofyn i gleifion gadw draw a dylai cleifion drefnu apwyntiadau gyda'r practis yn y ffordd arferol.

Uwch Ymarferydd Nyrsio yn ennill ysgoloriaeth ymchwil chwenychedig am waith 'ysbrydoledig' yng nghanolfan feddygol Bae Colwyn - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

"Roedd salwch staff ar ddau ddiwrnod ar wahân dros y pythefnos diwethaf yn golygu bod angen i ni ganolbwyntio ein hadnoddau cyfyngedig ar yr achosion mwyaf difrifol a brys ymysg ein poblogaeth.

"Rwy'n ymddiheuro i'r rhai yr effeithiwyd arnynt ar y ddau ddiwrnod hynny.

"Mae staff yn parhau i weithio'n hynod galed i ofalu am y boblogaeth leol, yn wyneb galw mawr am wasanaethau ac rwy'n hynod ddiolchgar am eu hymroddiad a'u hymrwymiad.

“Edrychwch ar ein tudalen Facebook Canolfan Feddygol West End yn gyson i gael y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf."

Yn debyg i lawer o bractisau meddygon teulu ar draws y DU, mae ymdrechion i recriwtio staff i swyddi allweddol yn y ganolfan yn parhau.  Mae gwasanaethau iechyd a chyngor amgen, fel GIG 111 a gwasanaethau Fferyllol lleol, yn ddewis da i rai cleifion sydd â salwch llai difrifol. 

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)