Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth iechyd dementia hollbwysig yn ennill Gwobr Tîm y Flwyddy

Mae Gwasanaeth Asesu'r Cof (MAS) wedi cael ei gydnabod am ei wasanaeth arbenigol i asesu, canfod a thrin dementia yn Wrecsam ac yn Sir y Fflint.

Gwnaeth y tîm, sy'n cynnwys chwe nyrs, tri gweithiwr cymorth gofal iechyd a dau therapydd galwedigaethol ennill gwobr Tîm y Flwyddyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Staff 2023 eleni, a gynhaliwyd yn Venue Cymru ddydd Gwener, 20 Hydref.

Mae'r cyfeiriadau at y tîm wedi parhau i godi bob blwyddyn, gan ddyblu bron ers 2015. Maent wedi addasu'n dda i ymdopi â'r cynnydd mewn gofal sydd ei angen, a thrwy arloesiadau bach, maent wedi gwella'r gwasanaeth yn gyson i gleifion a'u teuluoedd fel y mae'r adborth positif a'r diolchiadau yn ei ddangos.

Dywedodd Michaela James, Arweinydd y Gwasanaeth Cof: "Yn ystod pandemig Covid-19, cafodd y rhan fwyaf o aelodau'r tîm eu hadleoli i roi cymorth i'r wardiau iechyd meddwl acíwt. Wrth i'r staff ddychwelyd at ein gwasanaeth, bu ôl-groniad o bobl yn aros am gyfeiriadau. Gwnaeth staff weithio diwrnodau ychwanegol yn y clinig ar benwythnosau er mwyn delio â'r angen ychwanegol ac roeddent yn gallu lleihau'r amseroedd aros fel bod amseroedd aros fel yr oeddent cyn y pandemig o fewn tri mis.

"Ers y pandemig, mae'r tîm wedi addasu i ddefnyddio technoleg er mwyn cynnig apwyntiadau i bobl dros y ffôn neu ar-lein, ac maent wedi datblygu system frysbennu newydd er mwyn sicrhau bod modd darparu gwasanaeth yn brydlon a bod anghenion ehangach cleifion a'u gofalwyr yn cael eu diwallu.

"Mae pawb sy'n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth bellach yn derbyn galwad ffôn gan nyrs o fewn dau ddiwrnod o'u cyfeiriad i gynghori pobl ynghylch y camau nesaf ac i gynnig unrhyw wybodaeth neu eu cyfeirio er mwyn sicrhau bod modd mynd i'r afael â'r holl anghenion gofal."

Mae'r tîm yn rhoi cymorth i'w cleifion ar ôl diagnosis ar ffurf gofal personol unigol, ac maent yn cynnig ymyriadau yng nghartrefi pobl ac mewn sesiynau therapi cymunedol.

Ychwanegodd Michaela: "Yn ogystal, mae ein staff yn parhau i roi cymorth i bobl sydd â dementia nad ydynt efallai'n derbyn sylw gan ein gwasanaeth mwyach, ond yn rhoi cyngor neu eu helpu i gwblhau ffurflenni a gwaith papur fel ffurflenni DVLA/bathodyn glas neu geisiadau am fudd-daliadau.

"Y tu ôl i'r llenni, yn dilyn cyflwyno safonau gofal dementia Cymru Gyfan yn 2020, mae'r tîm wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ledled Cymru wrth i'r gwaith cyson o drawsnewid MAS barhau."

Dywedodd Jez Nash, Prif Weithredwr Centerprise International, noddwr y digwyddiad: “Rydym yn ein chweched flwyddyn yn noddi Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC, ac mae ymrwymiad rhagorol staff y GIG yng Ngogledd Cymru yn parhau i wneud argraff arnaf i. Maen nhw’n arloesol yn eu hagwedd at ddarparu gofal ac yn dangos tosturi di-ben draw tuag at eu cleifion a’u cydweithwyr.

“Rydym yn falch iawn o rannu achlysur y gwobrau gyda 500 o staff y GIG, ac yn falch o allu parhau â’n cysylltiad â noson wych i ddathlu eu hymdrechion."

“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd ar restr fer y gwobrau eleni.”