Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith adeiladu'n dechrau ar gam cyntaf y gwaith mewnol fel rhan o ail ddatblygiad Ysbyty Rhuthun.

Mae'r gwaith ail ddatblygu i ddod ag ystod o wasanaethau iechyd o dan un to yn Ysbyty Rhuthun wedi dechrau.

Mae'r contractiwr Read Construction eisoes wedi dechrau gwaith ar y maes parcio fel cam cyntaf y cynllun adnewyddu gwerth £3.14m i wella cyfleusterau yn yr ysbyty cymuned. 

Mae arferion gwaith diogel wedi'u rhoi ar waith i gefnogi ymbellhau cymdeithasol, i gadw gweithwyr adeiladu, staff a chleifion yn yr ysbyty a'r cyhoedd yn ddiogel.

Yn ystod cam cyntaf y gwaith mewnol, bydd uned therapïau newydd yn cael ei datblygu yn yr ysbyty, gan greu cyfleusterau cyfredol i wasanaethau megis ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a podiatreg i weithio ohonynt.

Bydd y gwaith ailddatblygu'n golygu llai o deithio i apwyntiadau a diagnosteg i gleifion a staff, gan wneud triniaeth yn haws ac yn fwy hygyrch. Mae rhannau eraill y datblygiad yn cynnwys Meddygfa newydd, gwasanaethau cymuned gan gynnwys Ymwelwyr Iechyd, a gwasanaethau i Bobl Hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Fel rhan o'r cynllun, bydd y Feddygfa yn y Clinig, Rhuthun yn symud o'r adeilad presennol, adeilad sydd wedi'i bennu'n anaddas i bwrpas. Mae Meddygfa'r Clinig ar Stryd y Mount yn gwasanaethu bron i 3,000 o gleifion a bydd gwasanaethau'n cael eu trosglwyddo i Ysbyty Cymuned Rhuthun ar ei newydd wedd i adeilad y Feddygfa newydd.

Bydd Cynghrair y Cyfeillion presennol yr ysbyty hefyd yn symud i leoliad canolog ar flaen yr ysbyty, a bydd man yn cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau trydydd sector, a gweithgareddau megis grwpiau mam a phlentyn.   

Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Prosiect yr ailddatblygiad: "Rydym yn gyffrous iawn i weld gwaith yn dechrau ar Ysbyty Rhuthun, ac mae'n rhaid i ni ganmol ein contractiwr Read Construction am barhau i gael gwaith yn barod er gwaethaf yr her COVID-19.

"Rydym yn edrych ymlaen at weld gwaith yn datblygu ar gam cyntaf yr ailddatblygiad dros y tri mis nesaf."

Dywedodd Alex Read, Cyfarwyddwr o Read Construction: "Rydym wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn datblygu maes parcio ychwanegol a mynediad ffordd dros dro i'r safle. Yn awr fod y gwaith hwn wedi'i gwblhau, rydym yn barod i ddechrau ar y gwaith mewnol yn yr ysbyty.

"Mae pawb ar y safle'n dilyn canllawiau gan Gyngor Arweinyddiaeth Adeiladu a deddfwriaeth y llywodraeth i sicrhau amgylchedd gwaith diogel ac ufudd i bawb."

 

Mae'r prosiect yn cefnogi integreiddiad timau cymuned a gofal cychwynnol a chyd-leoli timau a gwasanaethau, gan helpu i ddod â gwasanaethau ysbyty yn agosach at gartrefi pobl.