Neidio i'r prif gynnwy

Graddedigion Prosiect SEARCH yn dathlu llwyddiant!

22 Mehefin 2022

Daeth grŵp o interniaid Prosiect SEARCH yn raddedigion balch y mis hwn, gan dderbyn eu tystysgrifau mewn seremoni gyda’u teuluoedd yn bresennol.

Mae Prosiect SEARCH yn interniaeth 12 mis ar gyfer unigolion ifanc sy'n gadael addysg sydd ag anableddau dysgu neu awtistiaeth.

Prif amcan Prosiect SEARCH yw sicrhau cyflogaeth gystadleuol. Yn genedlaethol, mae'r raddfa ddi-waith ar gyfer oedolion sydd ag anableddau/awtistiaeth oddeutu 90 y cant, mae Prosiect SEARCH yn cefnogi datblygiad sgiliau ac ymddygiad sy'n cefnogi'r oedolion ifanc hyn i mewn i waith ystyrlon sy'n talu. 

Mae’r rhaglen yn bosibl drwy gyllid gan Engage to Change a chydweithrediad rhwng y Bwrdd Iechyd, DFN Prosiect Search, Grŵp Llandrillo-Menai, Agoriad Cyf ac Anabledd Dysgu Cymru a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Ariennir y prosiect Engage to Change gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy raglenni Ar y Blaen 2.

Roedd Owain Williams yn un o nifer o interniaid i dderbyn ei dystysgrif sydd bellach wedi sicrhau cyflogaeth fel technegydd yn dilyn interniaeth lwyddiannus yn Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd: “Roeddwn yn bryderus iawn ynglŷn â dechrau’r interniaeth gan nad oeddwn yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Roeddwn i’n nerfus iawn oherwydd y sefyllfa gyda COVID ond fe wnaeth y staff fy nghroesawu a’m cysuro drwy ddangos i mi sut i ddefnyddio PPE yn y ffordd gywir, cadw pellter cymdeithasol a pha mor bwysig oedd dilyn mesurau hylendid dwylo da.

“Roeddwn i’n teimlo’n rhan o dîm ar unwaith ac rydw i wir yn mwynhau dod i’r gwaith bob dydd gan fy mod yn gwybod y byddwn i’n dysgu pethau newydd yn ddyddiol ac yn datblygu fy sgiliau.”

Ynghyd ag Owain, mae'r intern Leam Start hefyd wedi diogelu swydd yn Uned Diheintio Endosgopi’r Bwrdd Iechyd ac mae Dafydd Parry bellach yn gweithio fel aelod banc o staff gweinyddol y bwrdd iechyd.

Cynhaliwyd y seremoni ar gampws Grŵp Llandrillo Menai Coleg Menai yn Llangefni gyda’r tystysgrifau’n cael eu cyflwyno i’r interniaid gan Brif Weithredwr Agoriad Cyf Arthur Beechy a Phennaeth Cynorthwyol Grŵp Llandrillo Menai Bryn Hughes Parry.

Dywedodd Mr Hughes Parry; “Mae’r prosiect unigryw hwn yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth i wella dyfodol ein pobl ifanc.”

Dywedodd Mandy Hughes, Rheolwr Moderneiddio’r Gweithlu ym Mhrifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn hynod falch o’n interniaid Project SEARCH, maent wedi gweithio mor galed i gyflawni eu nod. Mewn blwyddyn sydd wedi bod yn anodd iawn, mae hyn yn dyst i'w proffesiynoldeb a'u gwaith tîm. Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Mr Beechy: “Mae’r prosiect hwn yn dangos sut y gall cred mewn potensial newid bywydau er gwell.”