Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfa GIG newydd yn agor yn Llanberis

16 Ionawr, 2024

Mae Fferyllfa GIG newydd wedi agor yn Llanberis, yn sicrhau bod gan bobl leol fynediad hawdd at feddyginiaethau a chyngor arbenigol unwaith eto, a hynny ar garreg eu drws.

Yn dilyn cau fferyllfa’r dref y llynedd, mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda Fferyllwyr Llŷn, sydd ȃ fferyllfeydd eraill wedi’u lleoli yn Nefyn, Abersoch, Llanbedrog, Blaenau Ffestiniog a Chricieth, i sefydlu fferyllfa newydd yn y dref.

Agorodd y fferyllfa newydd yn Llanberis ddiwedd fis Tachwedd, ac mae’n cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys dosbarthu presgripsiynau a’r cynllun anhwylderau cyffredin.

Dywedodd Adam Mackridge, Arweinydd Strategol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Yn dilyn penderfyniad cwmni’r fferyllfa flaenorol i gau, buom yn gweithio’n agos gyda Fferyllwyr Llŷn a oedd wedi gwneud cais i agor fferyllfa yn Llanberis i leihau’r effaith ar y gymuned yn deillio o’r cyfnod pontio.

“Er mwyn sicrhau bod y gymuned leol yn parhau i gael mynediad at wasanaeth fferyllfa, cynigiodd y cwmni wasanaeth dros dro i ddanfon a chasglu presgripsiynau fel nad oedd angen i bobl deithio yn bellach.

“Hoffem gymeradwyo gwaith caled y tîm yn Fferyllwyr Llŷn, sydd wedi llwyddo i sicrhau bod meddyginiaethau o fewn cyrraedd i bobl y gymuned.

“Mae’n rhagorol gweld bod y fferyllfa’n gweithredu’n llawn, ac rwy’n ffyddiog bydd yr ystod eang o wasanaethau clinigol y bydd y tîm yn eu cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol.

“Fel Bwrdd Iechyd rydym yn gyffrous ein bod wedi comisiynu ystod eang o wasanaethau clinigol o’r fferyllfa newydd, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Fferyllwyr Llŷn i helpu i wella mynediad a dewisiadau i gleifion yn Llanberis a’r gymuned ehangach, gan eu cefnogi i fyw bywydau iachach.”

Mae Arfon Bebb, a oedd yn rheolwr Fferyllfa HH Parry yn Abersoch yn flaenorol wedi’i benodi’n fferyllydd yn y fferyllfa newydd.

Dywedodd: “Rydym yn falch iawn fod gennym ein fferyllfa newydd ar waith yn Llanberis i gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i’r boblogaeth.

“Roeddem yn ymwybodol o’r angen am fferyllfa yn y dref ac yn ymwybodol am deimladau cryf y gymuned am hyn. Felly, rydym yn hapus iawn i agor un o’n canghennau yma fel nad oes rhaid i bobl leol deithio ymhellach i gael mynediad at wasanaethau fferyllol.”