Neidio i'r prif gynnwy

'Fe wnaeth hwn wir roi hwb i fy hyder a'm hunanbarch' - y claf cyntaf yn defnyddio colur cuddliw yn canmol gwasanaeth newydd

27/01/2023

Mae gwraig ddatblygodd frech ddifrifol ar ei gwddf a'i breichiau yn dilyn COVID-19 wedi canmol gwasanaeth colur cuddliw cosmetig newydd Ysbyty Maelor Wrecsam am roi hwb i'w hyder.

Yn gynharach eleni, cafodd Tina Owens, 52, o Wrecsam, adwaith andwyol i feddyginiaeth ar gyfer poen yn y cymalau, a oedd ganddi o ganlyniad i COVID-19, a datblygodd frech o gwmpas ei gwddf a'i breichiau, oedd yn raddol yn mynd yn waeth.

Cyfeiriwyd Tina at y meddyg ymgynghorol a chafodd ddiagnosis o ddermatitis Berloque, cyflwr croen cronig anghyffredin. Dywedwyd wrthi am y colur cuddliw cosmetig sydd ar gael i gleifion sy'n dymuno gorchuddio cyflyrau croen difrifol.

Dywedodd Tina: “Dydw i ddim yn gwisgo llawer o golur, ond pan ddywedodd y meddyg ymgynghorol bod gwasanaeth colur cuddliw ar gael, meddyliais am briodas fy mab bedydd oedd ar ddod ac roeddwn yn mynd i ddarllen yno.

“Roeddwn i'n fwriadol wedi prynu ffrog a oedd yn gorchuddio fy ngwddf a'm breichiau. Roeddwn i'n meddwl, rhaid i mi sefyll ar lwyfan a gwneud darlleniad hir gyda phawb yn edrych arna i. Mae’n effeithio ar eich hyder pan fo rhywbeth fel hyn yn digwydd, ac mae COVID-19 yn sicr wedi gwneud hynny, felly cefais fy nghyfeirio am apwyntiad.

“Roedd Heidi Evans, ymarferydd dermatoleg yn yr ysbyty, yn hyfryd. Pan ddywedwyd wrthyf mai fi oedd apwyntiad cyntaf Heidi, fe'm synnwyd, achos ei bod hi mor gymwys, yn ateb fy holl gwestiynau ac roedd yn brofiad rhyfedd o bleserus.”

Mae'r colur cosmetig yn cynnwys elïau cuddliw a phowdrau sydd wedi eu cynllunio i orchuddio ystod eang o gyflyrau croen. Mae ymarferwyr yn treulio amser yn ei baru gyda thôn croen cleifion unigol, ac yn dangos sut i'w roi ymlaen, fel gall y claf ddysgu'r sgiliau newydd sydd eu hangen i'w defnyddio eu hunain gartref.

Derbyniodd Tina y colur wythnos cyn y briodas, a phrynodd ffrog newydd ar gyfer yr achlysur.

Ychwanegodd: “Fe weithiodd yn wirioneddol dda. Roeddwn i wedi fy ngorchuddio yn llwyr a sylwodd neb ar fy mrech na'i gweld. Dangosodd Heidi beth i'w wneud mor dda a rhoi llawer o gynghorion da i mi. Rhoddodd yr hyder i mi ei ddefnyddio, ac rydw i'n dod yn well am ei roi ymlaen. Helpodd Heidi fi i ymlacio gymaint, ac roedd hi'n hyfryd o ran ei dull, roeddwn i'n teimlo'n ddiogel gan ei bod hi'n gwybod am beth roedd hi'n siarad.

“Mae gen i beth ar ôl, dydw i ond wedi ei ddefnyddio cwpl o weithiau, fel arfer pan fydda’ i'n cyfarfod pobl newydd er mwyn hybu fy hyder, gan fy mod i wedi cael sylwadau ac edrychiadau annifyr o'r blaen fel y mae pobl yn ei wneud. Fe wnaeth o wir hybu fy hyder a'm hunan-barch, ac roeddwn i'n teimlo llawer mwy cyfforddus i sefyll i fyny o flaen pawb a gwneud darlleniad.

“Mae hyn yn gweithio'n wirioneddol dda yn barod o wasanaeth mor newydd, a gall hyn wneud gwir wahaniaeth mawr i rywun. Rydw i'n edrych ymlaen at ei ddefnyddio dros y Nadolig ar gyfer achlysur arbennig.”

Cwblhaodd ymarferwyr dermatoleg Ysbyty Maelor Wrecsam yr hyfforddiant cuddliw cosmetig dros yr haf ac mae ar gael i gleifion sy’n cael eu cyfeirio trwy’r tîm dermatoleg. Mae ymarferwyr Dermatoleg hefyd yn edrych i mewn i gyflwyno'r gwasanaeth newydd hwn ar draws Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd yn y dyfodol.

Dywedodd Heidi: “Rydw i wrth fy modd faint y mae'r gwasanaeth hwn wedi helpu Tina yn ystod amser pan oedd hi angen y gwasanaeth hwn fwyaf. Hyfforddais mewn cuddliw cosmetig, ochr yn ochr â'm cyd-weithwyr, am y rheswm penodol hwn, i helpu’r rhain orchuddio’r hyn sy’n eu gwneud yn ansicr ac i deimlo'n hyderus ar gyfer yr achlysuron arbennig rheiny.

“Rydw i wedi fy mhlesio gan sylwadau Tina, ac fel fy nghlaf cuddliw cosmetig cyntaf roedd hi'n hyfryd i weithio gyda hi. Rydw i mor falch i bopeth fynd yn wych ar y diwrnod mawr.”

Mae'r Adran Ddermatoleg yn Ysbyty Maelor Wrecsam hefyd wedi cael ei hadnewyddu’n helaeth yn ddiweddar gan gynnwys gosod ffototherapi newydd yn cynnig triniaethau ar gyfer cyflyrau'r croen ac anhwylderau eraill gan ddefnyddio golau uwchfioled i leihau llid a gwella'r symptomau cysylltiedig â chyflyrau megis soriasis ac ecsema.

Dywedodd Dr Glenda Hill, Arbenigwr Cyswllt mewn Dermatoleg yn Wrecsam: "Rydym wrth ein bodd i allu cynnig y gwasanaeth ychwanegol hwn i'n cleifion. Rydym wedi cael sylwadau hyfryd ar sut mae hyn wedi eu helpu nhw. Fyddai'r gwasanaeth newydd hwn ddim wedi bod yn bosibl heb waith adnewyddu diweddar yn yr adran, sy'n cynnwys lloriau newydd, golau, ac mae wedi gwella'r amgylchedd i'n cleifion a'n staff. Hoffwn ddiolch i'r tîm Ystadau am eu cefnogaeth o ran helpu i wneud i hyn ddigwydd."

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk).