Enillwyr digwyddiad Hacio Iechyd ar-lein cyntaf y DU yn dod o hyd i atebion arloesol i argyfwng COVID-19

Er gwaethaf yr heriau y mae COVID-19 wedi'u creu, mae achosion o'r firws wedi ysbrydoli clinigwyr i ddatblygu prosiectau arloesol er mwyn eu helpu i gyfathrebu'n well rhwng ei gilydd a'u cleifion.

Cymerodd staff ran yn y digwyddiad Hacio Iechyd ar-lein cyntaf yn y DU ar gyfer Cymru Gyfan, wedi'i drefnu gan Barc Gwyddoniaeth Menai (M-Sparc), Comisiwn Bevan, MediWales, Hwb Gwyddorau Bywyd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr lle buont yn cyflwyno prosiectau'n gysylltiedig â COVID-19 i gynulleidfa o fusnesau ac arbenigwyr yn y diwydiant.

Enillodd tîm dan arweiniad Anaesthetegydd o Ysbyty Gwynedd, Dr Simon Burnell, y lle cyntaf a gwnaethant dderbyn £5,000 gan Elusen y GIG ar gyfer Gogledd Cymru, Awyr Las, a £3,000 gan Santander ar gyfer eu prosiect i ddatblygu offeryn cyfathrebu pellter byr i'w ddefnyddio wrth wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE).

Mae'r prosiect gan dîm MASK-COMMS mewn ymateb i un o lawer o heriau sydd wedi codi yn ystod y pandemig ar ôl canfod bod masgiau wyneb yn yr ysbyty wedi'u hatal rhag cyfathrebu'n effeithiol.

Bydd y meicroffon a ddylunnir yn ddigon bach i ffitio o fewn unrhyw fasg wyneb PPE a bydd yn trawsyrru lleisiau'n ddiwifr i uchelseinydd y gellir ei wisgo. Bydd yn darparu llwyfan addasadwy lle bydd grŵp o staff gofal iechyd sy'n gwisgo masgiau'n gallu cyfathrebu'n hawdd yn amgylchedd yr ysbyty, megis yn ystod gweithred lawfeddygol.

Dywedodd Dr Burnell: “Mae cyfathrebu'n hanfodol yn ystod gweithredoedd lle bydd y timau anaesthetig a llawfeddygol yn gweithio'n agos ond mae iechyd a diogelwch hefyd o'r pwys mwyaf, felly ni ellir tynnu eu masgiau FFP3 er mwyn siarad â'i gilydd.

“Anfantais gwisgo masgiau wyneb yw bod ein lleisiau'n cael eu distewi a'u gwneud yn aneglur, ac na allwn ddarllen ystumiau wynebol. Cynigiais ateb sy'n caniatáu gosod dyfais mewn unrhyw fasg, sy'n gallu trawsyrru i bob cydweithiwr, neu i un uchelseinydd cymunedol heb beryglu cyfanrwydd PPE."

Mae mater masgiau wyneb yn atal cyfathrebu hefyd yn bryder i Awdiolegwyr yng Ngogledd Cymru a ymunodd â Thyddyn Môn, sef elusen o Ogledd Cymru i oedolion sydd ag anableddau dysgu, er mwyn cyflwyno eu syniad i greu masg clir i gynorthwyo cyfathrebu gyda chleifion byddar neu drwm eu clyw.

Dywedodd Dr Sarah Bent, Prif Wyddonydd Clinigol o Wasanaeth Awdioleg y Bwrdd Iechyd: “Cafodd mater masgiau wyneb sy'n atal ystumiau gweledol hollbwysig i bobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw eu codi gan glinigwyr Awdioleg yng Ngogledd Cymru yn ôl ym mis Ebrill 2020.

“Mewn ymateb, gwnaeth Awdiolegwyr dreulio amser yn ymchwilio i ddewisiadau a allai helpu. Gwnaethom ganfod nad oedd unrhyw fasgiau clir ar gael i ni, felly yn hytrach, gwnaethom brofi apiau ffôn clyfar sydd ar gael i drosi iaith lafar yn benawdau neu'n codi lefel y sŵn i glustffonau.

“Ond roeddem yn dal i deimlo bod angen masg clir, nid yn unig i'w ddefnyddio ym maes Awdioleg, ond er budd pobl sy'n fyddar ac yn drwm eu clyw yn eu holl ryngweithiadau iechyd a gofal cymdeithasol.

“Ar gyfer y Digwyddiad Hacio Iechyd, gwnaethom ymuno â grŵp o unigolion â diddordeb ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, y diwydiant ac arloesi i weithio gyda'i gilydd am wythnos i ddylunio masg.

“Gwnaethom sylweddoli hefyd nad oedd unrhyw brofion ar gael i sicrhau bod y masgiau clir yn addas at eu diben.

“Gan fod cyfnod cyflym o ddatblygu prototeip a phrofi ar y gweill erbyn hyn, mae'r tîm prosiect bellach yn ymrwymedig i droi'r syniad yn gynnyrch sy'n diwallu anghenion gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cyn gynted â phosibl."

Enillodd y grŵp 'Masgiau Clir ar gyfer Cyfathrebu' y trydydd lle yn y Digwyddiad Hacio Iechyd a gwnaethant dderbyn £2,500 gan Awyr Las.

Mae'r pandemig presennol wedi effeithio hefyd ar y Gydweithredfa Gofal Cymunedol (CCC), sy'n cynnal yr Hwb Gofal Cymunedol, sef gwasanaeth cymunedol amlasiantaethol galw heibio er mwyn helpu i drawsnewid bywydau pobl ddigartref ac sy'n agored i niwed yn Wrecsam.

Mae'r hwb yn dod â llu o arbenigwyr lles at ei gilydd i gynnig model gofal 'sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn' er mwyn helpu aelodau'r gymuned yn Wrecsam sy'n wynebu argyfwng.

Mae'r Hwb yn rhoi mynediad uniongyrchol at ofal a chymorth uniongyrchol i bobl fel meddygon teulu, cymorth tai, gwasanaethau bancio, cyngor ar fudd-daliadau a chymorth iechyd meddwl. 

Fodd bynnag, oherwydd y pandemig presennol, ni allai'r tîm barhau â'r gwasanaeth yn ei ffurf bresennol oherwydd y canllawiau presennol ar ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd, Dr Karen Sankey, meddyg teulu a sefydlodd y CCC: “Mae achosion presennol o'r firws wedi golygu bod rhaid i ni feddwl yn wahanol iawn am sut rydym yn cysylltu â phobl ac yn rhoi cymorth mewn partneriaeth.

“Pan wnaethom ddatblygu ein syniad am Ddigwyddiad Hacio Iechyd, roedd dwy her allweddol y gwnaethom eu hystyried, roedd un yn cynnwys sut gallwn barhau i greu amgylchedd sy'n caniatáu mynediad at y cymorth cywir trwy bartneriaid lluosog sy'n ddiogel ac sy'n cadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol a'r llall, sut i sicrhau bod yr hyn y byddwn yn ei greu yr un mor hygyrch ar draws ein cymuned, gan sicrhau nad yw pobl o dan anfantais oherwydd tlodi, natur wledig eu hardal neu eu hoedran.

“Ein syniad buddugol oedd creu hwb cymunedol rhithwir, sy'n dilyn model cyfannol yr hwb ffisegol, lle caiff pobl eu cefnogi trwy sgyrsiau anffurfiol a chyfeillgar i fanteisio ar y cymorth uniongyrchol sydd ei angen arnynt trwy rwydwaith rithwir o bartneriaid.

“Er mwyn creu'r amgylchedd cywir, rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Glyndŵr gan ddefnyddio technoleg newydd ac arloesol i gynnwys meysydd cymdeithasol a chymunedol, ystafelloedd ymgynghori preifat ac offer hunanofal a lles am ddim yn yr amgylchedd newydd hwn.

“Ers ein Digwyddiad Hacio, rydym hefyd wedi cysylltu â phartneriaid lleol ac rydym wedi cael cyllid pellach i sicrhau bod holl aelodau ein cymuned yn gallu manteisio ar yr hwb rhithwir hwn, gan gynnwys pobl nad oes modd ganddynt brynu offer a systemau digidol. Gall ein sefydliad roi'r offer hwn ar fenthyg erbyn hyn a phrynu systemau amrywiol er mwyn caniatáu mynediad at y rhyngrwyd. Rydym hefyd yn y cam datblygu cynnar o ddatblygu gorsafoedd cymunedol digidol, a fydd yn caniatáu mynediad at y gymuned rithwir mewn ardaloedd ar draws Wrecsam gan gynnwys y rheiny sy'n wledig ac yn fwy anghysbell.

“Credwn y bydd y syniad hwn, nid yn unig yn cefnogi pobl yn ystod y pandemig hwn, ond y bydd hefyd yn cynnig model newydd ac arloesol o ofal a chymorth iechyd wrth i ni symud tuag at yr hyn a allai fod yn dirwedd wahanol iawn i'n sectorau iechyd a gofal cymdeithasol." 

Daeth y prosiect yn bedwerydd yn y digwyddiad a dyfarnodd Awyr Las £2,500 iddo.

Dywedodd Dr Lynne Grundy, Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil ac Arloesi'r Bwrdd Iechyd: “Bu'r Digwyddiad Hacio Iechyd COVID-19 yn enghraifft wych o ba mor awyddus yw ein staff i ddatblygu atebion i heriau ac i wella bywyd i'n cleifion - hyd yn oed yn y sefyllfaoedd mwyaf dyrys."

Nodiadau i olygyddion:

  • Cafodd y Digwyddiad Hacio Iechyd ei gynnal ar 20 Mai gyda chwe thîm buddugol, tri o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dros 100 o westeion, a chafodd £13,000 ei dyfarnu tuag at arloesiadau sy'n mynd i'r afael ag argyfwng COVID-19 yng Nghymru.