Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar weithredu diwydiannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - dydd Iau, 15 Rhagfyr, 2022

12.12.2022

Mae cyfarwyddwr gweithredol nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi diolch i aelodau'r cyhoedd am eu dealltwriaeth cyn gweithredu diwydiannol arfaethedig.

Dywedodd Angela Wood fod trafodaethau helaeth wedi cael eu cynnal gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ynghylch lefelau staffio cyn y gweithredu, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer dydd Iau, 15 Rhagfyr.

Ail-bwysleisiodd hefyd na ddylai aelodau'r cyhoedd ffonio'r Bwrdd Iechyd yn gofyn am unrhyw apwyntiadau sydd wedi'u cynllunio ar ddiwrnod y gweithredu.

Byddwn yn cysylltu â chleifion os bydd unrhyw newidiadau i driniaeth neu apwyntiadau sydd wedi'u trefnu ar gyfer 15 Rhagfyr.

Cadarnhaodd Angela Wood y caiff llawdriniaeth ar gyfer canser a llawdriniaeth frys eu blaenoriaethu a bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i wneud y defnydd gorau posibl o gyfleusterau cleifion allanol ac achosion dydd.

Ychwanegodd: "Dylai cleifion y mae disgwyl iddynt fynd i'n safleoedd acíwt a'r rhai yn y gymuned ddydd Iau, 15 Rhagfyr, fynd yno yn ôl yr arfer, oni bai eu bod yn derbyn cyngor gan ein staff i beidio gwneud hynny.

"I unrhyw un yr effeithir arnynt gan hyn, bydd dyddiadau eraill yn cael eu cynnig ac rwy’n diolch iddynt am eu dealltwriaeth wrth i ni weithio trwy'r trefniadau hynny. Bydd y rhai y disgwylir iddynt gael llawdriniaeth arall sydd wedi'i chynllunio fel cleifion mewnol yn derbyn apwyntiadau newydd cyn gynted â phosibl."

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd wedi cyhoeddi y caiff oriau ymweld eu hymestyn o heddiw (ddydd Llun, 12 Rhagfyr). Bydd ymwelwyr bellach yn gallu mynd i'n safleoedd acíwt rhwng oriau 10am a 8pm dros gyfnod y Nadolig.

Mae trefniadau ar wahân ar waith i ymweld â chleifion ar ein hunedau mamolaeth. Gall partneriaid ymweld rhwng 8am a 8pm. Bydd ymwelwyr eraill yn gallu mynychu rhwng 2pm-4pm a 6pm-8pm.

Fodd bynnag, bydd yr holl ganllawiau ymweld eraill yn parhau i fod ar waith. Gallwch eu gweld yma: Ymweld ag Ysbytai - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)

"Trwy gynyddu oriau ymweld, daw risg gynyddol o haint a gaiff ei throsglwyddo gan aelodau'r cyhoedd," meddai Angela Wood. "Byddwn yn gofyn i bawb sy'n ymweld â ffrind neu anwylyn i'n helpu i gadw ein hysbytai'n ddiogel.

"Gofynnwn i chi wisgo masg, os gallwch wneud hynny. Yn ogystal, cofiwch lanhau eich dwylo ar ôl i chi gyffwrdd ag unrhyw arwynebau, fel drysau neu handlenni drysau, a chyn i chi gyffwrdd ag unrhyw eitemau personol o eiddo claf.

"Yn olaf, rwyf am ganmol pob un o'n staff am eu hymroddiad a'u hymrwymiad dros gyfnod hynod anodd ac estynedig.

"Waeth a yw ein nyrsys ynghlwm wrth weithredu diwydiannol ai peidio, un tîm ydym ni a'n pryder pennaf yw amddiffyn iechyd ein poblogaeth."