Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau cyffrous i wella mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl ar draws y rhanbarth

Mae bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi amlinellu cynlluniau cyffrous i wella mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl ar draws y rhanbarth.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud fod ei rwydwaith o wasanaethau FEDRA'I, sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â darparwyr y trydydd sector, yn ei gwneud hi’n haws i bobl dderbyn y gefnogaeth gywir, yn y lle cywir ac yr amser cywir.

Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys 12 Hwb Cymunedol FEDRA'I, sydd nawr wedi agor eu drysau i’r cyhoedd, ar ôl darparu cefnogaeth ar lein i dros 2,500 o bobl yn ystod y pandemig COVID-19.  

Gellir cael mynediad at yr hybiau, sydd wedi’u lledaenu ar draws chwe sir Gogledd Cymru, ar sail galw heibio ac maent yn darparu cefnogaeth ar ystod o faterion, gan gynnwys dyled, tor perthynas, problemau cyffuriau neu alcohol, anawsterau cyflogaeth, profedigaeth, tai ac unigrwydd.

Maent yn cael eu rhedeg mewn partneriaeth â darparwyr y trydydd sector sydd â chofnod profedig o helpu pobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn recriwtio therapyddion galwedigaethol ychwanegol i weithio mewn meddygfeydd fel rhan o’i wasanaeth Cychwynnol FEDRA'I, yn dilyn peilot llwyddiannus yng Ngwynedd a Môn.

Byddant yn gweithio’n agos gyda’r Hybiau FEDRA'I a gwasanaethau cymunedol eraill, gan sicrhau y gall pobl gael mynediad at asesiadau a chefnogaeth fanwl yn gynharach tra’n lleihau’r pwysau ar Feddygon Teulu a’r angen am gyfeiriad at wasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol.  

Mae cynlluniau yn cael eu datblygu hefyd i wella mynediad at gefnogaeth amserol a phriodol ar gyfer pobl sy’n profi argyfwng iechyd meddwl min nos ac ar benwythnosau.  

Mae ystod gynhwysfawr o ganllawiau hunan gymorth digidol ar gael hefyd ar wefan y bwrdd iechyd ac mae cefnogaeth benodol yn cael ei chynnig i helpu pobl i gael mynediad at therapi iechyd meddwl ar lein, ‘SilverCloud’ ac apiau iechyd meddwl eraill.

Yn y cyfamser, mae cynllun cefnogi cyflogaeth Gwaith FEDRA'I ar gyfer pobl sy’n profi problemau iechyd meddwl lefel isel yn parhau i fynd o nerth i nerth.  Y rhaglen, sy’n cael ei ddarparu gan yr elusennau Adferiad a Strategaeth Dinas Y Rhyl, yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.  Ers 2019, mae wedi helpu bron i 200 o bobl i mewn i waith, tra mae 80 y cant o’r rhai sydd wedi derbyn cefnogaeth wedi adrodd ar welliannau i’w lles.

Dywedodd Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Bydd yr ystod o wasanaethau FEDRA'I yn ei gwneud hi’n haws i bobl dderbyn y gefnogaeth gywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir.

“Trwy ymyrryd yn gynnar, gallwn helpu i gael pobl ar y trywydd cywir, atal eu symptomau rhag gwaethygu, a gostwng amseroedd aros ar gyfer y nifer llai o bobl sydd angen cefnogaeth gan ein gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol.

“Mae’r pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobl ac rwy’n falch ein bod yn gallu gweithio gyda’n partneriaid i gynnig y gwasanaethau ychwanegol hyn sydd yn fawr eu hangen.”

Am fwy o wybodaeth ar FEDRA'I, gan gynnwys sut i gael mynediad at y gwasanaethau cefnogi amrywiol, ewch i: Fedrai i - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)