Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i bobl sy'n ymweld â'n hysbytai dros gyfnod y gaeaf

20/12/23.

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Wrth i bwysau cyson ar wasanaethau iechyd a gofal barhau ar draws Gogledd Cymru a'r wlad, mae'n rhaid i ni geisio cyfyngu ar ledaeniad feirysau, megis y ffliw, Norofeirws a COVID-19, yn ein hysbytai dros fisoedd y gaeaf.

"Mae cleifion sy'n sâl yn ein hysbytai yn fwy tebygol o fod yn agored i salwch difrifol oherwydd COVID-19, y ffliw a heintiau eraill fel annwyd, dolur rhydd a chwydu.

"Mae cyfraddau heintiau yn yr ysbyty yn uwch o lawer nag arfer ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn, gan fod cynifer o feirysau'n cylchredeg yn ein cymunedau, felly mae risg fwy o heintio.

"Lle'r ydym yn gweld cyfraddau heintio uwch yn ein hysbytai, bydd rhai o'n wardiau'n cau i ymwelwyr felly rydym yn annog teuluoedd a ffrindiau sy'n bwriadu ymweld i gysylltu â'r ward ymlaen llaw am ragor o wybodaeth.

"Gallwch helpu i amddiffyn eich anwylyd, chi'ch hun, a staff, trwy beidio ymweld os oes gennych beswch, annwyd, dolur rhydd, neu chwydu, neu os oes gennych dymheredd.

"Rydym yn annog pawb i olchi eu dwylo neu defnyddio gel diheintio'r dwylo cyn mynd i mewn i unrhyw wardiau neu fannau clinigol eraill neu wrth eu gadael er mwyn trechu unrhyw fygiau. Ni chaniateir i ymwelwyr eistedd ar welyau cleifion nac i ddefnyddio toiledau'r cleifion. Ni orfodir gwisgo masgiau yn ein hysbytai, ond ar rai wardiau, efallai y gofynnir i ymwelwyr eu gwisgo lle bo feirysau anadlol yn cylchredeg. Mae masgiau ar gael i bobl sy'n awyddus i wisgo un.

"Diolch am eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth barhaus yn ystod y cyfnod hwn."

Gallwch weld yr arweiniad ar ymweld ar ein gwefan yma