Neidio i'r prif gynnwy

Côr Roc cyntaf y GIG yn paratoi at eu perfformiad mawr cyntaf

Côr Roc cyntaf y GIG yn paratoi at eu perfformiad mawr cyntaf

Mae staff a gwirfoddolwyr y GIG ac aelodau'r cyhoedd wedi taro nodyn cadarnhaol drwy lansio côr roc newydd.

Mae oddeutu 20 aelod o staff yn ogystal â chyn gleifion wedi dechrau ymarfer yng Nghanolfan Caplaniaeth Ysbyty Gwynedd i baratoi at eu hymddangosiad cyhoeddus cyntaf yng Ngŵyl Cerddoriaeth ZipRoc ym mis Mehefin.

Llafur cariad Caplan Wynne Roberts o Ysbyty Gwynedd yw'r côr newydd sydd wedi cael help Jenny Pearson, perfformwraig ac athrawes i arwain y côr.

Dywedodd: "Cefais fy syfrdanu gyda'r ymateb a faint ddaeth i ymarfer cyntaf y Côr yr wythnos diwethaf.

"Rydym hefyd yn falch bod y berfformwraig Jenny Pearson, yn ein harwain - roeddwn wedi rhyfeddu at ba mor gyflym y cafodd hi bawb i ganu.

"Mae'n wych bod gennym ein côr roc cyntaf ac mae amser ar ôl i eraill ymuno!"

Bydd y côr yn perfformio ar yr un llwyfan â Cast, Elin Flur a Bryn Fôn pan fydd yr wŷl yn cael ei chynnal ar 15 Mehefin.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu er budd yr elusen, Love Hope Strength, a sefydlwyd gan Mike a Jules Peters, sy'n codi arian tuag at wasanaethau canser ar draws Gogledd Cymru.

Mae Mike a Jules, a sefydlodd "Snowdonia Rocks" 13 mlynedd yn ôl ac yn awr Snowdonia Rocks Wales 20 km a Gŵyl ZipRoc, yn dweud eu bod yn falch iawn bod côr y GIG yn perfformio ar y diwrnod.

"Mae'n golygu cymaint i mi a Jules i gael côr y GIG sy'n cynnwys staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr fel rhan o'r diwrnod ac yn canu yn ZipRoc.

Dywedodd Mike, "Hoffem ddiolch i bawb am fod yn rhan o'r diwrnod gwych hwn. Rydym yn gobeithio y byddwn yn codi swm sylweddol o arian er budd gwasanaethau canser lleol.

Dywedodd Nia Thomas, Pennaeth Datblygiad Sefydliadol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'r côr yn ffordd hyfryd o ddod â staff a gwirfoddolwyr at ei gilydd i wneud rhywbeth y maent yn ei fwynhau y tu allan i'r gweithle.

"Rydym wedi gweld faint o hwb mae corau'r GIG wedi'i roi i staff mewn llefydd eraill yn y DU, felly mae'n wych gweld côr y GIG ein hunain yn cael ei ffurfio yma yng Ngogledd Cymru."

Bydd dau ymarfer arall yn digwydd yng Nghanolfan Caplaniaeth Ysbyty Gwynedd-

Dydd Mawrth, 4 Mehefin 5 – 6pm

Dydd Mawrth, 11 Mehefin 5 – 6pm

Os ydych yn dymuno ymuno â'r côr, cysylltwch â Wynne Roberts ar wynne.roberts@wales.nhs.uk

Am fwy o wybodaeth am yr ŵyl, ewch ar https://www.zipworld.co.uk/zip-world-rocks-2019