Neidio i'r prif gynnwy

Cofeb wedi'i hagor yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog

19/06/2023

I roi hwb i ddathliadau Wythnos y Lluoedd Arfog, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi agor ei ardal goffa newydd yn swyddogol, a hynny y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Yn ogystal â hynny, cynhaliodd y Bwrdd Iechyd seremonïau codi baner y Lluoedd Arfog yn Ysbyty Glan Clwyd er mwyn cefnogi staff a chleifion sydd yng Nghymuned y Lluoedd Arfog eu hunain neu sydd â theulu yng Nghymuned y Lluoedd Arfog, naill ai’n gwasanaethu ar hyn o bryd, yn gyn-filwyr neu’n filwyr wrth gefn.

Ddydd Llun, 19 Mehefin, cododd Ysbyty Maelor Wrecsam y faner ochr yn ochr ag agoriad swyddogol ei ardal goffa y tu allan i brif fynedfa’r ysbyty, sy’n cynnwys meinciau, tri pholyn baner newydd a thair cofeb garreg bwrpasol gyda phlaciau wedi'u hysgythru ac sydd wedi'u cysegru i'r Lluoedd Arfog, Gwasanaethau Golau Glas a'r trydydd sector / darparwyr gwasanaethau gwirfoddol.

Dywedodd Zoe Roberts, Cyfamod y Lluoedd Arfog ac Arweinydd Cydweithredol Gofal Iechyd Cyn-filwyr: “Mae’n bleser gennyf weld yr ardal goffa sydd newydd ei chomisiynu bellach ar waith, a fydd yn cynnig lle i staff, cleifion a’u teuluoedd i gofio ac yn lle am gyfnod o fyfyrio a chael y cyfle i dalu teyrnged i’r rhai yr ydym ni wedi’u colli.

“Trwy’r ardal goffa bwrpasol hon, gallwn ni ddathlu ymdrechion ein Gwasanaethau Golau Glas, Cymuned y Lluoedd Arfog a hefyd y sefydliadau gwirfoddol trydydd sector, gyda phob un ohonynt wedi gwasanaethu a pharhau i wasanaethu poblogaeth Gogledd Cymru, boed hynny yn nhermau darparu gofal iechyd neu ddiogelwch cenedlaethol. Mawr yw ein diolch.”

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda Byrddau Iechyd eraill yng Nghymru, er mwyn cynnal digwyddiadau Cymru Gyfan i alluogi staff i gymryd rhan er mwyn dathlu Cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys seremonïau codi baneri, gweminarau ar-lein ar themâu teuluoedd y lluoedd, LHDTC+ a phrofiad bywyd y cyn-filwr gyda chymorth gan y GIG a Chyfamod y Lluoedd Arfog.

Bydd Diwrnod Milwyr Wrth Gefn yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Mehefin er mwyn rhoi’r cyfle i staff sy’n Filwyr Wrth Gefn wisgo eu lifrai i’r gwaith a bod yn rhan o’r dathliadau.

Yn gynharach eleni, lansiodd y Bwrdd Iechyd raglen newydd o’r enw Rhaglen Gydweithredol Gofal Iechyd Cyn-filwyr Gogledd Cymru (NWVHC) er mwyn sicrhau nad yw Cymuned y Lluoedd Arfog ar draws Gogledd Cymru o dan anfantais o ran y gofal y maent yn ei dderbyn, a lle y bo’n bosibl, eu bod yn derbyn gofal personol a chanlyniadau gwell i gleifion.

Mae tri ysbyty acíwt y Bwrdd Iechyd, sef Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd hefyd wedi derbyn achrediad fel Ysbytai sy’n Ymwybodol o Gyn-filwyr, sy’n golygu eu bod yn codi ymwybyddiaeth o gyn-filwyr, adnabod cyn-

filwyr sy’n cael eu cyfeirio am driniaeth, ac yn ymdrechu i wella’r broses recriwtio a chadw cyn-filwyr ar draws gweithlu’r Bwrdd Iechyd.

Llynedd, arwyddodd y Bwrdd Iechyd adduned newydd o’r enw Step into Health, sy’n anelu at gefnogi cyfleoedd gyrfaol i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog drwy sefydlu cyfleoedd hyfforddi, lleoliadau gwaith, diwrnodau mewnwelediad, a chynnig cymorth gyda cheisiadau.

Yn ogystal â hynny, mae gan y Bwrdd Iechyd Wobr Aur am Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Llywodraeth am y cymorth aml-sianel ac am y cyfarchion i bersonél y gorffennol a’r presennol yn y Lluoedd Arfog, ac mae'n dangos ei fod yn esiampl i gyflogwyr mawr eraill a chyflogwr sy’n gyfeillgar i'r lluoedd arfog.