Neidio i'r prif gynnwy

Codwyd dros £3,500 er cof am ddyn poblogaidd o Ynys Môn tuag at Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd

Codwyd dros £3,500 er cof am ddyn poblogaidd o Ynys Môn tuag at Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd

Mae dyweddi dyn o Ynys Môn a fu farw'n drist iawn ar ôl cael gwaedlif yr ymennydd wedi codi dros £3,500 tuag at yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Gwynedd.

Gwnaeth Alwyn Rowlands lewygu yn ei gartref ym Malltraeth ar Ddydd Nadolig, ac y drist iawn, bu farw pan oedd dim ond yn 53 oed chwe wythnos yn ddiweddarach ac yntau heb ailddeffro byth ar ôl hynny.

Bu dros 400 o bobl yn ei angladd a gofynnwyd i roddion gael eu rhoi tuag at yr Uned Gofal Dwys lle codwyd cyfanswm o £3,000.

Gwnaeth Jude Williams, dyweddi Alwyn ers dros 38 mlynedd, ddychwelyd i'r uned yn dilyn marwolaeth ei phartner am y tro cyntaf yn ddiweddar er mwyn cyflwyno siec i'r staff.

Dywedodd: “Yn ystod y cyfnod pan oedd Alwyn ar ICU, roeddwn i wastad wrth ei ochr, roeddwn i'n gallu aros ar yr uned i fod yn agos ato a oedd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i mi.

“Roedd y staff yn garedig tu hwnt ac nid yn unig roeddent yn gofalu am Alwyn, ond roeddent yn gofalu amdanaf i a'n teulu hefyd."

Roedd Alwyn yn gymeriad hynod boblogaidd yn Ynys Môn ar ôl treulio 20 mlynedd yn gweithio yng Nghyngor Tref Llangefni fel y rheolwr ystadau yn gofalu am eu hasedau a oedd yn cynnwys y meysydd chwarae, lawnt bowlio a'r fynwent, yn ogystal â chydlynu digwyddiadau fel y Gwasanaeth Coffa blynyddol a digwyddiad cynnau goleuadau’r Nadolig. 

Codwyd dros £3,500 er cof am ddyn poblogaidd o Ynys Môn tuag at Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd

“Roedd Alwyn wastad yn meddwl am eraill cyn fo ei hun, roedd yn ddyn caredig a pharod ei gymorth ac roedd wastad am helpu eraill.

"Byddai'n gwneud llawer o waith gwirfoddol yn Llangefni a'i bentref genedigol ym Modorgan a bu’n un o'r prif drefnwyr ac ysgrifennydd Carnifal Llangefni gan godi arian mawr tuag at y digwyddiad.

“Gwnaeth Alwyn gefnogi llawer o elusennau, yn lleol ac yn genedlaethol, felly er cof amdano, rydym am barhau i godi arian tuag at yr Uned Gofal Dwys er mwyn parhau i ddiolch am yr hyn a wnaethon nhw i ni yn ystod ein cyfnod tywyllaf.

“Roedd yn anodd ymweld â'r uned am y tro cyntaf ers i Alwyn farw ond roedd yn wych gweld y nyrsys a'r meddygon a wnaeth gymaint drosto hefyd.

“Roedd yn bleser gennym ni gyflwyno teledu newydd ar gyfer ystafell y staff a hefyd siec arall a fydd yn helpu i brynu eitemau sydd eu hangen arnynt.

"Rydym ni hefyd yn trefnu'r Alfest cyntaf yn Llangefni er cof amdano ar 21 Medi a bydd yr arian a godir yn mynd tuag at yr Uned Gofal Dwys.

“Rydw i'n wirioneddol ddiolchgar am bopeth a wnaethon nhw i Alwyn, allwn ni fyth ddiolch iddynt ddigon," ychwanegodd Jude.

Dywedodd Ceri Morgan, Nyrs Gofal Critigol ar yr Uned Gofal Dwys fod y tîm yn hynod ddiolchgar am yr arian a godwyd tuag at eu hadran.

Dywedodd: “Pan fu Alwyn gyda ni, roedd yn adeg drist i bawb, roedd cymaint o bobl yn ei adnabod ac roedd yn boblogaidd tu hwnt.

“Daethom ni i adnabod Jude yn dda iawn gan ei bod wedi aros yr uned trwy gydol y cyfnod y bu Alwyn gyda ni ac roedd yn wych ei gweld hi a'i nithoedd unwaith eto.

“Mae bob amser yn braf clywed adborth mor bositif ar y gofal rydym ni'n ei gynnig ac fel tîm, mae hyn yn rhoi'r symbyliad i ni barhau i gynnig y gofal gorau posibl i'n cleifion."

Ychwanegodd Nyrs Gofal Critigol Critical Hâf Huws: “Rydym ni'n ddiolchgar iawn i Jude a'i theulu am y rhoddion anhygoel a roddwyd i'r Uned Gofal Dwys.

“Mae geiriau caredig Jude wir yn golygu llawer i'n tîm ac rydym ni'n ddiolchgar dros ben."