Neidio i'r prif gynnwy

Cloch Diwedd Triniaeth Newydd yn nodi taith babi Theo at wella

Cloch Diwedd Triniaeth Newydd yn nodi taith babi Theo at wella

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael cloch newydd i helpu cleifion nodi diwedd eu triniaeth.

Mae'r gloch 'Diwedd Triniaeth' wedi cymryd y lle blaenaf yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod, yr uned i'r newydd-anedig cyntaf yng Ngogledd Cymru i gael cloch.

Cafodd Theo Shaw ei eni 12 wythnos yn gynnar yn pwyso 2lb 11oz yn unig, a threuliodd dros ddau fis yn yr uned gofal dwys ar beiriant anadlu i helpu iddo anadlu.

Dywedodd Amanda ei fam, sy’n 40 oed o Wrecsam: "Nid oedd yn feichiogrwydd syml, a golygodd haint yn fy ngwaed fy mod wedi mynd i gyfnod esgor cynnar. Digwyddodd bopeth mor gyflym.

"Roedd gan Theo Afiechyd Cronig yr Ysgyfaint, sy'n datblygu mewn babanod cynamserol oherwydd y cymorth y maent eu hangen i anadlu yn ystod diwrnodau cyntaf eu bywydau.

"Roedd yn gyfnod pryderus iawn."

Treuliodd Theo saith wythnos yn Ysbyty Glan Clwyd, a chafodd ei drosglwyddo yn ddiweddarach i Uned Gofal Arbennig i Fabanod Wrecsam, ble treuliodd dair wythnos arall cyn cael ei ryddhau o driniaeth.

Cloch Diwedd Triniaeth Newydd yn nodi taith babi Theo at wella

Amanda a Stephen ei gŵr, sydd hefyd â merch o'r enw Amy, 21 oed, a mab o'r enw Ethan, 10 oed, oedd y cyntaf i ganu cloch newydd yr uned.

Dywedodd Amanda: "Roedd y seremoni canu'r gloch yn eithaf emosiynol. Darllenais bennill, a chymerodd staff yr ysbyty luniau.

"Roedd yn ffordd hyfryd o orffen beth oedd wedi bod yn gwpl o fisoedd llawn straen.  Roedd yn wych gorffen pethau ar nodyn cadarnhaol."

Dywedodd Lisa Andrews, dirprwy reolwyr yr uned: "Mae'r staff yn yr uned i'r newydd-anedig yn Ysbyty Maelor wrth eu boddau i gynnig y profiad unigryw hwn i'w cleifion, sydd yn aml wedi cael taith hir ac anodd.

"Mae'n anrhydedd bod yn rhan o dîm sy'n helpu i wella plant, ac mae gweld dathliad cloch ddiwedd triniaeth yn ei wneud hyd yn oed gwell."

Cafodd y gloch ei rhoi gan y sefydliad End of Treatment Bells, a sefydlwyd gan Tracey Payton, a Phil ei gŵr ar ôl i Emma eu merch, ganu cloch ddiwedd triniaeth pan gafodd ei rhyddhau o'r ysbyty yn Oklahoma, yn yr Unol Daleithiau, ble cafodd driniaeth ar gyfer canser meinwe meddwl prin.

Dywedodd Tracey: "Roeddem wrth ein boddau gyda'r gloch, a'i natur symbolaidd.  Ers hynny, rydym wedi rhoi dros 250 o glychau yn y Deyrnas Unedig a dramor er mwyn i gleifion eu canu i ddathlu cerrig milltir yn ystod eu triniaeth.

"Nid cloch yn unig ydyw- mae'n symbol o obaith."

Mae Theo yn awr wedi cael ei ryddhau o'r SCBU, ac yn gwella'n dda gartref.

Ychwanegodd Amanda: "O waelod ein calonnau, rwyf eisiau diolch i bawb sydd wedi trin Theo, ac sydd wedi ein cefnogi drwy amser anodd iawn.

"Mae'r nyrsys yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn darparu llawer mwy na gofal meddygol yn unig- maent yn ffrindiau, yn gwnselwyr a phopeth arall.
"Ni fyddem wedi gallu ei wneud hebddynt."

Cliciwch yma i ymweld â gwefan End of Treatment Bells.