Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion yn croesawu llawdriniaeth robotig yn Ysbyty Gwynedd

30 Awst, 2023

Gall cleifion canser y coluddyn o bob rhan o Ogledd Cymru bellach elwa ar wella'n gyflymach ar ôl llawdriniaeth, diolch i'r dechnoleg robotig ddiweddaraf.

Yn dilyn cyflwyno'r System Robotig Llawfeddygol Versius yn llwyddiannus yn yr Adran Gynaecoleg, mae Llawfeddygon Cyffredinol o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd bellach yn defnyddio'r dull hwn yn Ysbyty Gwynedd i drin canser y coluddyn mewn cleifion addas.

Mae'r dechnoleg yn galluogi llawfeddygon i gwblhau llawdriniaethau canser cymhleth gan ddefnyddio llawdriniaethau twll clo sy’n creu archoll mor fach â phosibl. O ganlyniad, dim ond ychydig iawn o boen y bydd cleifion yn ei brofi ar ôl y llawdriniaeth, ac maent yn llai tebygol o ddatblygu cymhlethdodau fel heintiau. Mae llawer yn gallu dychwelyd adref yn gyflymach hefyd.

Er mwyn gweithredu’r robot, mae'r llawfeddyg yn rheoli pedair braich y peiriant o gonsol yn yr un ystafell lawdriniaeth. Mae hyn yn caniatáu iddynt symud meinwe neu wneud toriadau o bell gyda chywirdeb anhygoel.

Derbyniodd Steve Williams, 67, o’r Wyddgrug, a gafodd ddiagnosis o ganlyniad i’r Rhaglen Sgrinio Coluddion yn gynharach eleni, ei lawdriniaeth ym mis Mehefin 2023.

Dywedodd: “Pan glywais y newyddion drwg am y tro cyntaf, cynigiodd fy llawfeddyg, Mr Dixon, lawdriniaeth robotig i mi. Fe wnes i ychydig o waith ymchwil a dysgu am rai o'r manteision cyn penderfynu mynd amdani.

Roeddwn i'n teimlo'n dawel fy meddwl o'r eiliad y cerddais i mewn i'r ysbyty. Roedd pawb yn gwenu ac yn gyfeillgar. Roedd yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Er ei bod yn llawdriniaeth hir iawn, roeddwn i wedi codi o’r gwely'r diwrnod canlynol ac yn teimlo'n dda iawn. Fe es i adref rai dyddiau'n ddiweddarach. 

“Roedd y gofal a gefais gan dîm Cyn Llawdriniaeth Ysbyty Maelor Wrecsam, y nyrsys Stoma, Mr Dixon a'r amser a dreuliais i yn Ysbyty Gwynedd i gyd yn rhagorol. Roedd y nyrsys ar Ward Tegid yn hynod broffesiynol a thosturiol, ni allaf ddiolch digon iddynt am yr hyn a wnaethon nhw.

"Erbyn hyn, rydw i wedi cael newyddion da ac ni fydd angen i mi gael rhagor o driniaeth. Ond byddaf yn cael fy monitro am bum mlynedd, sy'n rhoi tawelwch meddwl i mi.”

Dywedodd Mr Steve Dixon, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr a ymunodd â’r Bwrdd Iechyd yn gynharach eleni oherwydd bod y dechnoleg robotig ar gael yn ei faes, ei fod yn falch o’r adborth gan gleifion hyd yn hyn.

Dywedodd: “Trwy gydol fy hyfforddiant llawfeddygol, rydw i wedi chwilio am gyfleoedd i ddatblygu technegau twll clo. Treuliais amser yn gweithio mewn canolfannau robotig cyfaint uchel i sicrhau bod gennyf y sgiliau i gynnig y canlyniadau gorau i'n cleifion.

“Mae wedi bod yn bleser cydweithio’n agos gyda’r tîm robotig, gan ddysgu a datblygu gyda’n gilydd a gweld cleifion, fel Mr Williams, yn elwa. Mae llawdriniaeth robotig yn galluogi llawfeddygon i wthio'r ffiniau o ran ansawdd a'r hyn sy'n bosibl. Mae datblygiadau newydd o fewn y dechnoleg yn cyrraedd bron bob mis sy'n gwneud hwn yn gyfnod hynod gyffrous i weithio i'r Bwrdd Iechyd. Mae cyfraddau canser y coluddyn yn genedlaethol, ar gynnydd. Bydd arloesedd a chynnydd fel sgrinio canser y coluddyn a’r rhaglen robotig yn ein helpu i gynnig iachâd i fwy o gleifion.”

Claf arall sydd wedi elwa ar y dechnoleg hon yn ddiweddar yw Paul Fletcher, 55, o Finffordd. Dychwelodd Mr Fletcher i'w gartref, bedwar diwrnod yn unig ar ôl llawdriniaeth fawr.

Dywedodd: “O’r dechrau pan gyfarfûm â’m llawfeddyg Mr Lala a’r tîm, ni allwn ofyn am well gofal a chymorth.

“Cefais fy syfrdanu bod y dechnoleg hon ar gael, mae'n anhygoel sut mae pethau wedi datblygu. Roedd y math hwn o lawdriniaeth yn fanteisiol iawn i mi gan fy mod i'n gallu codi o'r gwely yn gyflym iawn a mynd adref o fewn pedwar diwrnod.

“Fe hoffwn i ddiolch i’r tîm yn Ysbyty Gwynedd, o’r glanhawyr ar y ward, i’r nyrsys. Roedden nhw i gyd yn wych.

“Cefais sylw o ganlyniad i'r rhaglen sgrinio’r coluddyn, rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi clywed amdano ar y pryd. Roeddwn i’n lwcus iawn ac ers i hyn ddigwydd i mi, rydw i wedi bod yn annog pawb rydw i’n eu hadnabod sy’n gymwys i gymryd y prawf sgrinio i’w wneud – os yw’n cael ei ddarganfod yn gynnar gellir gwneud rhywbeth amdano. Mae mor bwysig i bobl wneud y prawf.”

Dywedodd Mr Anil Lala, Llawfeddyg y Colon a'r Rhefr ac Arweinydd Robotig ar gyfer tîm y Colon a'r Rhefr: “Mae cyflwyno llawdriniaeth robotig ar gyfer cleifion canser y coluddyn yn gam cyffrous i’n timau yn y Bwrdd Iechyd. Bydd hefyd o fudd i’n cleifion. Bydd yn eu helpu i wella'n gyflymach, eu cadw’n iach ac allan o’r ysbyty.

“Mae gennym bedwar llawfeddyg sydd bellach wedi eu hyfforddi yn y dechnoleg, Mr Baber Chaudhary a fi yn Ysbyty Gwynedd, Mr Sheik Rehman o Ysbyty Glan Clwyd a Mr Dixon o Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae hyn yn caniatáu i ni gynnig y gwasanaeth hwn i gleifion o bob rhan o Ogledd Cymru.

“Mae hefyd o fudd i’n staff theatrau llawdriniaeth, a fydd yn cael eu hyfforddi ar y dechnoleg flaengar er mwyn gyrru canlyniadau ac amseroedd gwella i gleifion.

“Mae gan lawdriniaeth robotig lawer o fanteision o’i gymharu â llawdriniaeth agored; mae’r buddion yn cynnwys colli llai o waed, arhosiad byrrach yn yr ysbyty a gwella'n gyflymach. Rydym wedi gweld rhai canlyniadau cadarnhaol iawn hyd yn hyn. Edrychwn ymlaen at ddatblygu'r gwasanaeth hwn ymhellach yn y dyfodol.”