Neidio i'r prif gynnwy

Claf arennol Ysbyty Maelor Wrecsam yn gobeithio helpu eraill gyda llyfr newyd

28/10/2021

Mae claf sy'n derbyn dialysis yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cyhoeddi llyfr o'r enw Transplants and Fears am ei brofiadau yn y gobaith o helpu pobl eraill sy'n mynd trwy brofiad tebyg.

Cafodd Chris Simpson, 35, o Wrecsam, ei eni 28 wythnos yn gynamserol, ac mae wedi cael pedwar trawsblaniad aren ers iddo fod yn 18 mis oed. Derbyniodd ei drawsblaniad diwethaf pan oedd yn 23, a dechreuodd yr aren fethu ym mis Awst 2020. Ers hynny, mae Chris wedi bod yn ymweld ag Uned Arennol Ysbyty Maelor Wrecsam i gael dialysis dair gwaith yr wythnos, sy’n driniaeth puro gwaed a roddir pan nad yw aren yn gweithredu fel y dylai.

Yn y llyfr mae Chris yn egluro: "Rwyf wastad wedi bod yn obeithiol y gallwn roi dealltwriaeth o'r sgîl-effeithiau cudd y mae unigolyn a'u teulu yn eu dioddef wrth fyw gyda chyflwr cronig sy'n newid bywyd. Un peth nad oes gen i yw'r hyder ac nid oeddwn yn gwybod ble i ddechrau.

"Wrth weithio gyda Caron, fy ngweithiwr cymdeithasol anhygoel a helpodd fi i adennill fy hyder a chwalu rhwystrau, newidiodd cyfeiriad fy mywyd er gwell."

Cyflwynodd Caron Chris i Outside In, grŵp ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, sy'n cynnwys myfyrwyr a staff Gwaith Cymdeithasol, a phobl â gwahanol anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n grŵp i rannu eu profiadau o ddefnyddio gwahanol wasanaethau.

Ar ôl i Chris ddangos ei ysgrifau i'r grŵp, a ddechreuodd fel dyddiadur, cafodd ei annog i ysgrifennu llyfr. Mae ffrind Chris sef Bernice Ross, a elwir yn Bee, myfyriwr gwaith cymdeithasol o’r grŵp, wedi bod yn gefnogaeth fawr i Chris a helpodd ef i ysgrifennu’r llyfr.

Eglurodd Chris: "Ar ddechrau pandemig COVID-19 lluniodd Bee syniad dyfeisgar o gynhyrchu copi drafft o lyfr cyfan. Ei barn hi oedd, pe byddem yn llwyddo i gynhyrchu drafft o lyfr gyda fy holl syniadau ynddo, byddai gennyf gyflawniad positif i edrych yn ôl arno, hyd yn oed pe bai'n aros ar fy silff lyfrau fy hun.

"Fy nod ar gyfer y llyfr yw dod â golwg onest, heb ei hidlo, ar y ffordd y mae claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth yn cael ei weld a'i glywed mewn bywyd, a datgelu'r effaith y gall ymarferwyr ei gael ar fywyd yr unigolion y maent yn darparu gofal a chefnogaeth iddynt. Gobeithio y bydd cenedlaethau o weithwyr proffesiynol y dyfodol yn ystyried effaith y cyflwr ac effaith eu penderfyniadau a'u gweithredoedd ar unigolion."

Mae Chris hefyd wedi derbyn cefnogaeth elusennol gan Aren Cymru gan gynnwys cyllid ar gyfer gliniadur newydd i ysgrifennu ei lyfr arno. Mae Chris bellach yn cael profion i weld a yw'n gydnaws i gael trawsblaniad aren arall.

Dywedodd Dr Stuart Robertson, Neffrolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, sydd wedi bod yn trin Chris ers blynyddoedd ac yn ymddangos yn y llyfr: "Am dros 30 mlynedd, mae Chris wedi profi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau clefyd yr arennau - o'r trawsblaniad aren llwyddiannus i'w fethiant dilynol a dychwelyd i ddialysis. Drwy gydol yr adeg hon, mae wedi bod yn benderfynol byw bywyd mor

normal â phosib. Y llyfr hwn yw taith emosiynol a gonest dyn ifanc sy'n byw gyda chlefyd yr arennau, rwy'n siŵr y bydd yn help mawr i gleifion eraill, eu perthnasau a'r rhai sy'n gofalu amdanynt i ddeall effaith methiant yr arennau sy'n newid byd ac, yn bwysicach fyth, sut i oroesi hyn."

Er mwyn archebu copi o Transplants and Fears neu am fwy o wybodaeth, e-bostiwch transplantsansfears@outlook.com.