Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan dros nos i gael ei ymestyn nes 2020 yn Ysbyty Alltwen

Bydd Uned Mân Anafiadau Ysbyty Alltwen yn parhau ar agor 24 awr y diwrnod i sicrhau y gall ygymuned gael mynediad at ofal nad yw'n frys hyd nes fis Mawrth 2020.

Mae'r ganolfan gofal heb ei drefnu yn Ysbyty Alltwen wedi bod yn ei le yn yr Uned Mân Anafiadau ers mis Chwefror 2019.

Mae'r Uned Mân Anafiadau yn cynnig gwasanaeth 24 awr gyda chymorth gan y Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau a'r tîm Nyrsio Ardal.

Mae Rhona Jones, Metron yn Ysbyty Alltwen wedi croesawu'r estyniad yn yr Uned.

Dywedodd: "Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu ymestyn y gwasanaeth hwn ar gyfer ein cymuned a’r ymwelwyr â'r ardal.

"Yn ystod mis Mehefin eleni, ni oedd yr Uned Mân Anafiadau prysuraf yng Ngwynedd ac Ynys Môn, gyda dros 600 o gleifion yn dod i'r ysbyty.

"Mae cael yr Uned Mân Anafiadau ar agor 24 awr y diwrnod wedi profi i fod yn fanteisiol iawn ac yn enghraifft wych o waith amlddisgyblaethol gydag aelodau eraill o staff megis y Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau a'r Nyrsys Ardal.

"Rydym wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ddefnyddio'r ganolfan fel nad oes rhaid i gleifion fynd i Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd pob amser.

"Mae ymateb y gymuned i'r gwasanaeth hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn. “Mae modd i'r holl fân anafiadau ac anhwylderau gael eu gweld a'u trin gennym ni yma ac rydym yn falch o ymestyn y gwasanaeth 24 awr hwn fel bod modd i'r unigolion yn ein cymuned gael eu gweld yn agosach at eu cartref."

Gall Unedau Mân Anafiadau drin:

  •  Brathiadau neu bigiadau (pryfed, anifeiliaid a phobl)
  •  Mân losgiadau neu sgaldiadau
  •  Dulliau atal cenhedlu y tu allan i oriau fferyllfa
  •  Mân anafiadau i’r llygaid
  •  Mân anafiadau fel ysigiadau 
  •  Mân anafiadau i'r pen (plant ac oedolion)
  •  Anafiadau i'r trwyn
  •  Mân anafiadau i'r cefn/y gwddf

Mae'r gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yn cael ei gynnig drwy apwyntiad yn unig ac mae ar gael rhwng 6.30pm a 8.00am o ddydd Llun i ddydd Gwener a thrwy'r dydd a'r nos ar benwythnosau a gwyliau'r banc a gellir cysylltu â nhw ar 0300 123 55 66 neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.

I gael mwy o wybodaeth am ddewis y gwasanaeth GIG cywir os byddwch yn sâl neu wedi'ch anafu, ewch i  www.dewisdoethcymru.org.uk