Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Dementia ac Iechyd Meddwl Oedolion yn agor yn Ysbyty Bryn Beryl

Mae Canolfan Integredig Dementia ac Iechyd Meddwl Oedolion newydd wedi agor yn Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli.

Bydd y prosiect £1.6m, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cyfleusterau modern, pwrpasol ac amgylchedd therapiwtig addas i fodloni anghenion defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl oedolion ac iechyd meddwl pobl hŷn.

Mae'r ganolfan hefyd yn darparu mynediad pwynt unigol at Wasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn ac Oedolion yn Nwyfor, a oedd gynt yn dameidiog ar draws sawl safle.

Mae'r Gwasanaeth Asesiad Dydd Dementia, Hafod Hedd, a gafodd ei adleoli i ofod dros dro yn Y Ffôr tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, bellach yn elwa o ofod eang newydd y tu mewn i'r adeilad newydd.

Dywedodd yr Arweinydd Tîm ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Glenys Williams: "Rydym wrth ein boddau gyda'n cartref newydd ar safle Bryn Beryl.

"Mae wedi darparu cyfleusterau modern a diweddar i ni ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth asesiad dydd dementia, bydd lle hefyd i gynyddu'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig, fel grwpiau gofalwyr a sesiynau addysgu.

"Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r tîm dylunio o'r cychwyn cyntaf, gan sicrhau bod yr uned bwrpasol hon yn darparu amgylchedd diogel a chyffyrddus i bobl sy'n byw gyda dementia.

"Mae pawb yn y gwasanaeth, gan gynnwys ein defnyddwyr gwasanaeth, yn falch iawn gyda'r canlyniad a bydd pawb yn elwa o'r cyfleuster modern newydd."

Dywedodd Carole Evanson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y Bwrdd Iechyd, fod y ganolfan yn darparu ystod o wasanaethau iechyd meddwl gofal cychwynnol ac eilaidd yng nghalon y gymuned.

Dywedodd: "Mae'r Ganolfan Dementia ac Iechyd Meddwl Oedolion newydd yn rhoi cyfle i ddarparu gwasanaethau cydlynol, addas at y diben i boblogaeth Dwyfor mewn amgylchedd sy'n wirioneddol gydnaws â gofal iechyd meddwl modern, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn."

Bydd y cyfleusterau newydd yn caniatáu i'r gwasanaeth ddarparu mwy o wasanaethau asesu dydd i bobl ym mhob cyfnod o ddementia, gan gynnwys pobl sy'n profi symptomau ymddygiad a seicolegol sylweddol  dementia, yn ogystal â mwy o therapi grŵp ac unigol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl oedolion.

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:  "Mae lleoli gwasanaethau dementia ac iechyd meddwl oedolion mewn un adeilad yn caniatau i bobl gael mynediad at yr elfen fwyaf priodol o'r gwasanaeth yn hawdd ac yn ddi-dor ac mae'n darparu gofal parhaus."

"Bydd hyn yn ein helpu i gynyddu nifer y cleifion sy'n cael gofal yn eu cymuned eu hunain gyda llai o angen am dderbyniadau ysbyty.  Mae integreiddio gwahanol dimau iechyd meddwl cymuned mewn un adeilad hefyd yn gwella cyfathrebu rhwng y sector iechyd, yr awdurdod lleol a'r trydyd sector."

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am Gyllid Cyfalaf Gofal Integredig, Julie James: “Blaenoriaeth allweddol ar gyfer y llywodraeth yw sicrhau fod pobl yn cael gofal yn agosach i gartref, gan gynyddu’r nifer o gleifion sy’n derbyn gofal o fewn eu cartrefi eu hunain a’u cymunedau lleol gan leihau’r angen am dderbyniadau ysbyty.  

“Mae darpariaeth gofal ym Mryn Beryl wedi cael ei ddatblygu fel bod yr holl wasanaethau o dan un to, gan alluogi mynediad at yr elfen fwyaf priodol o’r gwasanaeth yn haws a di-dor, gan ddarparu gofal parhaus, ac agwedd ‘cofleidiol’.  Gall cleifion ‘gamu i fyny a chamu i lawr’ o fewn y gwasanaethau yn dibynnu ar eu hangenion ar y pryd, agwedd hyblyg o fewn y gwasanaeth iechyd meddwl oedolion a’r gwasanaeth dementia.”