Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y gwasanaeth awdioleg newydd yn darparu gofal arbenigol, yn agosach i'r cartref.

Bydd pobl gydag anawsterau clyw ar draws Gogledd Cymru yn ei chael hi'n haws cael mynediad at gefnogaeth arbenigol yn eu Meddygfa, diolch i fuddsoddiad mewn gwasanaeth GIG newydd.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyflwyno Uwch Ymarferwyr Awdioleg i feddygfeydd ar draws y rhanbarth.

Bydd eu cyflwyno yn sicrhau y gall mwy o bobl ag anawsterau clyw, tinitws a phroblemau cydbwysedd dderbyn gofal arbenigol yn gynt ac yn agosach i'w cartrefi, gan ryddhau hyd at 22,000 o apwyntiadau meddygon teulu bob blwyddyn.

Credir bod anawsterau clyw yn effeithio ar oddeutu 130,000 o bobl yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys saith o bob deg unigolyn dros 70 mlwydd oed.

Ar hyn o bryd mae Awdiolegwyr Arfer Uwch (APA) ar waith mewn 36 o feddygfeydd Meddygon Teulu ar draws Gogledd Cymru, gan gefnogi tua 25 y cant o boblogaeth y rhanbarth.

Fel rhan o ddull fesul cam, bydd Awdiolegwyr Arfer Uwch yn cael eu cyflwyno i'r meddygfeydd sy'n weddill dros y tair blynedd nesaf.

Ar ôl eu sefydlu, bydd Awdiolegwyr Arfer Uwch hefyd yn goruchwylio darpariaeth gwasanaeth tynnu cŵyr clust, gan gefnogi'r pedwar y cant o'r boblogaeth sy'n dioddef o gŵyr clustiau problemus.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae mwy na 35,000 o bobl wedi elwa o'r gwasanaeth APA yn y meddygfeydd teulu lle cynhaliwyd y rhaglen beilot.

Mae’r model gwasanaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol, gan ennill Gwobr ‘Datblygu Gweithlu Cynaliadwy’ GIG Cymru a bod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Hyrwyddo Gofal Iechyd y DU yn y categori ‘Arloesi mewn Gofal Iechyd’.

Mae Canolfan Feddygol Clarence House yn y Rhyl yn un o 36 Meddygfa yng Ngogledd Cymru sydd eisoes wedi elwa o gyflwyno Awdiolegwyr Arfer Uwch.

Dywedodd Dr Simon Dobson, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Feddygol Clarence House: "Mae cyflwyno Awdiolegwyr Arfer Uwch wedi ei gwneud yn haws i bobl ag anawsterau clywed gael gafael ar y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt, gan ryddhau amser ein meddyg teulu i drin achosion eraill. Rwy'n falch iawn bod y gwasanaeth, a werthfawrogir gan gleifion a staff, ar waith i gael ei gyflwyno ar draws Gogledd Cymru."

Dywedodd Jane Wild, Gwyddonydd Ymgynghorol Clinigol a Phennaeth Awdioleg Oedolion yn BIPBC:

"Rydym yn gwybod y gall anawsterau heb eu rheoli, yn broblemau clyw, tinitws a chydbwysedd, gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd pobl.  Trwy alluogi pobl i gael eu trin yn agos i'w cartref gan Awdiolegydd Arfer Uwch yn y lle cyntaf, gallwn sicrhau eu bod yn derbyn y gofal arbenigol sydd ei angen arnynt yn gynt, wrth ryddhau apwyntiadau meddygon teulu.

"Mae'r gwasanaeth yn cael ei ymestyn fel rhan o broses fesul cam, dros y tair blynedd nesaf.  Rydym yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar oherwydd y bydd hi'n cymryd amser i recriwtio, hyfforddi staff a chyflwyno'r gwasanaeth i feddygfeydd ar draws y rhanbarth."