Neidio i'r prif gynnwy

Busnesau yn cael gwahoddiad i gystadlu mewn cystadleuaeth i roi brechiadau'n ddiogel

Mae mentrau ar draws Cymru yn cael gwahoddiad i feddwl am ffordd arloesol i ddatrys yr heriau i frechu'r cyhoedd yn ddiogel ac effeithiol fel rhan o'r Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) diweddaraf.

Bob blwyddyn, mae dros un miliwn o bobl ar draws Cymru yn cael brechiad, yn cynnwys imiwneiddiadau mewn plentyndod a brechiadau rhag y ffliw. 

Ond mae'r pandemig COVID-19 wedi codi nifer o heriau newydd i dimau brechu, yn cynnwys sut i frechu pobl sy'n gwarchod eu hunain yn ddiogel a sut i gadw'r staff sy'n rhoi'r brechiadau yn ddiogel.

Drwy gymryd rhan, gall busnesau gael mynediad at arian gan Lywodraeth Cymru trwy'r SBRI i ddod a'u syniadau gwych yn fyw.

Wedi'i gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae Canolfan Rhagoriaeth SBRI yn dod â'r sector gofal iechyd a busnesau ar draws y Deyrnas Unedig ynghyd i gydweithio i ddatrys yr heriau sy'n wynebu'r GIG.

Mae mentrau SBRI blaenorol yn cynnwys SBRI diheintio cyflym Ambiwlans Cymru a oedd yn llwyddiannus yn y gwanwyn, a ddangosodd gostyngiad o 86 y cant yn yr amser glanhau a gostyngiad o 82 y cant yn y costau. 

Mae'r tîm SBRI ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn awr yn troi eu sylw at helpu i oresgyn yr heriau sy'n dod yn sgil COVID-19 i gleifion a staff sy'n rhan o roi brechiadau.

Dywedodd Bruce McKenzie, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Bob blwyddyn mae tymor y ffliw yn dod â heriau sylweddol y mae'n rhaid eu bodloni yn defnyddio adnoddau'r GIG i sicrhau bod y bobl fwyaf bregus yn ein plith yn cael eu hamddiffyn. 

"Eleni mae pwysau ychwanegol ar boblogaeth Cymru a’n GIG oherwydd y tebygolrwydd y bydd Covid-19 yn cylchredeg yn ystod misoedd y gaeaf. 

“Mae Covid-19 yn golygu y bydd rhoi brechiadau yn mynd yn hyd yn oed mwy heriol, oherwydd bod ystod ehangach o bobl yn gwarchod eu hunain, mesurau cadw pellter cymdeithasol newydd, ystyriaethau rheoli heintiau a'r cynhwysiad posibl o gael brechiad Covid-19."

Gofynnir i'r rheiny sy'n cymryd rhan i ganolbwyntio ar dri prif maes lle mae gwelliannau posibl wedi cael eu dynodi

  • Darparu brechiadau (COVID-19 a/neu'r ffliw) yn ddiogel ac effeithiol, yn enwedig ar gyfer staff a phreswylwyr cartrefi gofal.
  • Gwella hygyrchedd i grwpiau a argymhellwyd nad ydynt yn gallu cael mynediad at leoliadau brechu traddodiadol.
  • Cael ystod hyblyg o leoliadau i staff y GIG a gofal cymdeithasol i gael eu brechu y tu allan i'r gweithle.

Mae gan fusnesau tan hanner dydd ar 29 Gorffennaf i ymgeisio ar gyfer yr her SBRI, gan weithio at derfyn amser terfynol yng nghanol mis Medi i ddarparu datrysiadau posibl.

Dywedodd Lynda Jones, Rheolwr y Ganolfan SBRI:  "Rydym yn chwilio am syniadau ac arloesiadau i'n helpu i fodloni targedau brechu yn cynnwys y brechiad COVID-19 unwaith y bydd ar gael.  Rydym eisiau gallu darparu hwn yn ddiogel ac yn effeithiol i'r holl grwpiau cymwys yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Rydym angen syniadau a all gael eu datblygu a'u profi'n gyflym gyda'r posibilrwydd o'u cynyddu a'u defnyddio ar draws y Deyrnas Unedig gan ddechrau ym mis Gorffennaf ac i'w cwblhau yn ddim hwyrach na mis Medi 2020.”

I gymryd rhan, gallwch ganfod mwy o wybodaeth yma www.sdi.click/vaccine