Neidio i'r prif gynnwy

Agor ail ystafell mân driniaethau ar gyfer llawdriniaethau ar y dwylo yn Ysbyty Llandudno

14 Tachwedd, 2023 

Mae ail ystafell mân driniaethau ar gyfer llawdriniaethau ar y dwylo bellach wedi agor yn Ysbyty Llandudno.

Mae'r ystafell wedi'i lleoli ar Ward Maesdu a gellir cynnal llawdriniaethau twnnel carpal a thendonau, a thynnu codennau meinwe bach yno.

Cafodd ein hystafell mân driniaethau gyntaf ei hagor yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn gynharach eleni.

Dywedodd y Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol Mr Edwin Jesudason, sy'n cynnal y llawdriniaethau yn Ysbyty Llandudno: “Gellir cynnig bron i bob mân lawdriniaeth ar y dwylo o dan anesthetig lleol yma. Yr unig driniaethau na allwn eu cynnig yw'r rhai sydd angen anesthetig cyffredinol neu floc nerfol mawr, a llawdriniaethau sy'n gofyn am fewnblaniadau.

“Rydym wrth ein bodd bod yr ystafell mân driniaethau hon ar gael. Rydym yn gweld bod ein cleifion yn llawer mwy hamddenol yn dod am eu llawdriniaethau gan nad ydynt yn aros ar y ward ac nid oes angen iddynt newid i wisg ysbyty fel y byddent mewn theatrau.”

Roedd Elspeth Mills o Bwllheli, ymysg y grŵp cyntaf o gleifion i gael eu llawdriniaeth yn Ysbyty Llandudno yn ddiweddar.

Cafodd Elspeth lawdriniaeth i drosglwyddo tendon. Roedd wedi torri ei harddwrn tua thair blynedd yn ôl ac yn ei chael hi’n anodd agor ei llaw yn llawn. Roedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd iawn iddi afael ar bethau ac i wisgo menig.

Dywedodd: “Ers fy namwain, mae fy arddwrn wedi gwaethygu. Dydw i ddim yn gallu agor fy llaw yn iawn sy'n gwneud tasgau a fyddai fel arfer yn rhai syml, yn anodd iawn.

“Roeddwn i fod i gael llawdriniaeth cyn COVID ond yn amlwg fe wthiodd hynny bopeth yn ôl felly roeddwn i’n falch iawn o dderbyn yr apwyntiad hwn.

“Rydw i wedi cael llawdriniaeth ar fy llaw o'r blaen ond roedd hynny mewn prif theatr ysbyty. Bryd hynny, roedd llawer o aros ar y ward ac roedd yn rhaid i mi newid fy nillad, felly roedd y tro hwn yn wahanol iawn.

“Roedd yr awyrgylch yn ymlaciol iawn a doeddwn i ddim wir yn teimlo fy mod yn dod i’r ysbyty am lawdriniaeth. Gallaf weld pam eu bod am wneud y llawdriniaethau hyn fel hyn. Mae'n brofiad llawer iawn gwell i gleifion yn ogystal â bod yn well i’r amgylchedd.”

Mae Mr Jesudason yn hynod angerddol am gynaliadwyedd amgylcheddol ac mae’n dweud bod y ffordd hon o weithio yn gwneud cyfraniad enfawr at leihau'r ôl troed carbon.

Dywedodd: “Mae theatrau yn fannau problemus o ran gwastraff - maen nhw’n defnyddio llawer iawn o ynni ar gyfer y systemau awyru, goleuo, gwresogi a dŵr. ​Yn ogystal â hyn, mae agor offer llawfeddygol untro a setiau offer mawr yn cynhyrchu cyfaint diangen o wastraff i'w losgi.

“Trwy weithio mewn ystafell driniaethau rydym yn defnyddio llai o offer llawfeddygol. Mae'n ein gwneud ni'n fwy effeithlon ac yn llai gwastraffus. Fel llawfeddyg mae hyn yn gwneud i mi deimlo fy mod yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i liniaru ôl troed carbon llawdriniaethau cymaint â phosibl. Mae hefyd yn rhyddhau prif theatrau llawdriniaethau ar gyfer triniaethau mawr a chapasiti mwy hanfodol, gan fod gofod theatr bob amser yn brin.”