Neidio i'r prif gynnwy

Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ar frig rhestr lleoedd gorau i hyfforddi yn y DU gan feddygon iau

24.07.23

Mae meddygon dan hyfforddiant o’r farn mai Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yw’r lle gorau i hyfforddi yn y Deyrnas Unedig.

Mae canlyniadau Arolwg Hyfforddiant Cenedlaethol diweddar y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn dangos bod dros 90 y cant o feddygon dan hyfforddiant yn fodlon ag ansawdd yr oruchwyliaeth glinigol, y profiad a'r addysgu a gânt yn yr Adran Achosion Brys.

Mae'r GMC yn cynnal arolwg hyfforddi bob blwyddyn i gael darlun cynhwysfawr o brofiadau meddygon dan hyfforddiant a hyfforddwyr ledled y DU.

Dywedodd Dr Nikki Sommers, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys, a dderbyniodd ei hyfforddiant fel meddyg iau yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd: “Rydym yn hynod o falch ein bod ar frig rhestr y DU o ran boddhad hyfforddeion.

“Mae hyn yn adlewyrchu gwaith caled yr holl adran, o'r staff gweinyddol a'r nyrsys i'r meddygon ymgynghorol sy'n sicrhau  bod yr hyfforddeion yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cefnogi yn ystod eu hamser yma.

“Mae addysg a dysgu wrth wraidd popeth rydym ni'n ei wneud yma - pan fo meddygon yn hapus ac yn cael eu cefnogi, maen nhw'n darparu gwell gofal i gleifion.

“Mae dod i ysbyty newydd yn gallu bod yn brofiad brawychus felly rydym bob amser eisiau gwneud yn siŵr bod croeso i bawb a'u bod yn rhan o’n teulu Adran Achosion Brys.

“Mae gennym ni sesiynau cynefino rhagorol, ac rydym ni'n trefnu digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd i wneud yn siŵr bod cyfle i bawb ddod i adnabod ei gilydd.

“Rydym ni’n ffodus iawn i gael tîm gwych yma. Mae pawb yn cefnogi ei gilydd. Mae’n bwysig gwrando bob amser ac os oes gan unrhyw un broblem, mae rhywun o hyd ar gael sy’n hapus i wrando a helpu.”

Dywed Dr Abigail Duckett, Meddyg Teulu dan Hyfforddiant, sydd wedi bod yn gweithio yn yr Adran Achosion Brys ers chwe mis, ei bod yn teimlo ei bod yn cael cefnogaeth fawr gan ei chydweithwyr.

Dywedodd: “Mae’n amgylchedd gwych i weithio ynddo, mae lefel y gefnogaeth a ddarperir gan fy nghydweithwyr yn wych ac mae rhywun o gwmpas bob amser i roi’r cyngor i chi pan fyddwch ei angen.”

Mae Dr Morwenna Coultate, Meddyg dan Hyfforddiant yn yr Adran Achosion Brys yn canmol yr adran am y broses gynefino groesawgar.

“Mae’n adran mor braf i weithio ynddi, rydych chi’n cael eich annog i gymdeithasu a dod i adnabod eich gilydd felly rydych chi'n teimlo’n rhan o’r tîm yn syth.

“Mae’r hyfforddiant yn wych, rydych chi’n teimlo eich bod yn cael cefnogaeth ar hyd y ffordd – mae’n lle gwych i hyfforddi,” meddai.

Mae Dr Non Evans, Cofrestrydd yn yr Adran Achosion Brys sy’n hanu o Ynys Môn yn wreiddiol, wedi bod yn dychwelyd i’r Adran fel rhan o’i hyfforddiant ers chwe blynedd. Mae’n gobeithio cael ei swydd gyntaf fel Meddyg Ymgynghorol yn yr ysbyty.

Dywedodd: “Rwy’n dod o Ynys Môn felly fe fyddwn i wrth fy modd yn cael swydd Meddyg Ymgynghorol yn fy Adran Achosion Brys lleol.

“Mae gan yr adran hon enw da yn genedlaethol, ac mae llawer o’r hyfforddeion rwyf i wedi gweithio gyda nhw mewn adrannau eraill wedi dweud pa mor wych oedd eu profiad yma.

“Mae’n dîm ardderchog, mae pawb yn gofalu am ei gilydd ac rydych chi’n teimlo’ch bod yn rhan o deulu.”

Ychwanegodd Dr Sommers: "Mae ein Hadran Achosion Brys yn rhoi gwerth ar waith tîm, ymddygiad tosturiol a rhagoriaeth. Mae'n wych ein bod yn derbyn adborth ein bod yn gwneud pethau'n iawn er gwaethaf yr heriau yr ydym yn eu hwynebu."