Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys atal strôc yn canfod ac yn cefnogi pobl a allai fod mewn perygl o gael strôc ar draws Gogledd Cymru

06/06/2024

Mae strôc yn un o brif achosion marwolaethau yn y DU ond mae modd atal 9 o bob 10 strôc, yn ôl y Gymdeithas Strôc, os yw’r ffactorau risg yn cael eu canfod, eu trin a’u rheoli’n well. 

Mae Rhaglen Gwella Strôc y Bwrdd Iechyd wedi datblygu model atal strôc ac wedi penodi tair nyrs atal strôc, Holly Brislen, Emma Davies a Nicola Vickers, sy’n darparu ymyriadau cynnar i achub bywyd ar draws Gogledd Cymru.

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Strôc, mae’r tîm wedi bod allan yn y gymuned yn codi ymwybyddiaeth o sut y gall pobl sylwi eu bod mewn perygl o gael strôc a’r risgiau sy’n gysylltiedig â dewisiadau ffordd o fyw nad ydynt yn iach.

“Nod ein gwaith yw dod o hyd i gleifion sydd mewn perygl o gael strôc mewn digwyddiadau cyhoeddus drwy fonitro pwysedd gwaed, gwirio curiad y galon a thrwy drafodaethau ynglyn â ffordd o fyw, megis ysmygu neu yfed alcohol. Bydd hyn yn tynnu sylw at risgiau strôc posibl." arbenigwyr yn esbonio.

“Y nod yw canfod pobl â ffactorau risg strôc megis Ffibriliad Atrïaidd (arhythmia’r galon) sydd heb ddiagnosis, Gorbwysedd Gwaed (pwysedd gwaed uwch) heb ddiagnosis/heb ei reoli, Diabetes heb ddiagnosis, Hyperlipidaemia (colesterol uwch), ac i ddarparu ymyrraeth gynnar i addasu a rheoli’r ffactorau risg hyn.”

“Rydym hefyd yn cynnig agwedd addysgol fel rhan o’n gwaith sydd, yn fy marn i, yn rhan bwysig iawn o’r rôl, a’n ffordd y gallwn newid ymddygiad” meddai. “Y nod yw gwella ymwybyddiaeth o ffactorau risg strôc ymhlith staff byrddau iechyd a thrydydd sector, cleifion, y cyhoedd, myfyrwyr a gofalwyr ar draws Gogledd Cymru. Rydym eisoes wedi dechrau darparu hyfforddiant ac addysg sydd wedi’u hanelu at y cyhoedd yn gyffredinol gan ymestyn allan i grwpiau megis y rhai â nam ar eu clyw a grwpiau du a lleiafrifol ethnig.”

Mae atal strôc hefyd yn edrych ar ffactorau risg sy'n gysylltiedig â dewisiadau ffordd o fyw afiach fel ysmygu a fȇpio, arferion bwyta afiach, cynnydd yn y defnydd o alcohol a sylweddau, a ffordd o fyw segur.

“Rwy’n angerddol dros ben am y rôl hon i ddatblygu fy ngwaith ym maes atal ac ymchwil. Fi yw cadeirydd presennol Fforwm Nyrsys Strôc Cymru ac ar hyn o bryd rwy’n gwneud fy MRes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a fydd yn fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth a’r gefnogaeth y gallaf ei chynnig i bobl ledled Gogledd Cymru,” meddai Holly.

Mae Emma wedi bod yn nyrs gofrestredig ers 20 mlynedd ac mae wedi datblygu diddordeb mewn atal strôc a phwysigrwydd rheoli ffactorau risg i atal afiechyd cronig.

Dywedodd Nicola, cyn-reolwr yr Uned Strôc Acíwt yn Ysbyty Maelor Wrecsam “Dyma le dechreuodd fy niddordeb mewn gofal Strôc, a bûm hefyd yn gweithio am chwe blynedd fel Uwch Brif Nyrs a Metron mewn Ysbytai Cymunedol. Mae’r rôl hon wedi dod â mi yn ôl at fy niddordeb angerddol mewn strôc gan ganolbwyntio ar atal, addysgu a datblygu gwasanaethau.”

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, ewch i Rhaglen Gwella Strôc y Bwrdd Iechyd