Neidio i'r prif gynnwy

Ward cleifion mewnol Ysbyty Tywyn i gau dros dro oherwydd prinder staff

Dydd Gwener 21 Ebrill

 

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Yr wythnos hon fe wnaethom gau Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn dros dro a chydgrynhoi ein gwelyau yn Ysbyty Dolgellau i sicrhau gwasanaeth nyrsio mwy dibynadwy. Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud i amddiffyn diogelwch ein cleifion mewnol nes y gallwn gyrraedd lefelau cynaliadwy o staff nyrsio.

“Rydym yn cydnabod pa mor anodd yw hyn i'n staff yn Nhywyn ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’n partneriaid Undebau Llafur i archwilio sut y gellir adleoli nifer fach o staff yr effeithir arnynt, dros dro, i gefnogi gwasanaethau iechyd eraill yn yr ardal leol nad yw cau'r ward dros dro wedi effeithio arnynt. Bydd yr holl wasanaethau eraill – gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol – yn parhau fel arfer yn Ysbyty Tywyn.

“Rydym yn ymwybodol iawn fod y newyddion yma wedi achosi pryder ymhlith y gymuned. Hoffem bwysleisio mai mesur dros dro yw hwn ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i recriwtio i'r swyddi nyrsio sy'n angenrheidiol er mwyn ailagor y ward.

“Rydym angen cefnogaeth y gymuned i rannu ein hysbysebion swyddi gwag yn eang. Os ydych chi’n adnabod unrhyw un sydd â diddordeb mewn swydd nyrsio yn Nhywyn neu’n adnabod rhywun a allai fod â diddordeb, ewch i’n gwefan.”

Dydd Iau 13 Ebrill 

Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Cymunedol Iechyd Integredig ar gyfer Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i recriwtio nyrsys newydd o'r ardal gyfagos ac o ymhellach i ffwrdd i weithio yn Ysbyty Tywyn ers peth amser ond bellach wedi dihysbyddu'r holl opsiynau recriwtio. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, nid ydym wedi llwyddo i recriwtio niferoedd digonol o nyrsys i ddarparu lefelau diogel o staff nyrsio ar draws Ysbytai Tywyn a Dolgellau.

“Diogelwch ein cleifion yw ein prif bryder, ac felly rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau ward Ysbyty Tywyn dros dro a throsglwyddo achosion cleifion mewnol i Ysbyty Dolgellau i sicrhau gwasanaeth nyrsio mwy cadarn. Bydd yr holl wasanaethau eraill - gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol - yn parhau fel arfer yn Ysbyty Tywyn.

“Dros yr wythnos nesaf, bydd staff a chleifion yn dechrau symud draw i Ddolgellau ac rydym yn gweithio gyda staff, cleifion a’u teuluoedd i sicrhau trosglwyddiad diogel rhwng yr ysbytai. Rydym yn ddiolchgar i’n staff sy’n gweithio’n galed i helpu i wneud y trosglwyddiad dros dro hwn mor llyfn ac mor ddiogel â phosibl.

“Bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu’n rheolaidd. Rydym yn parhau i recriwtio a’n bwriad yw ail-agor y ward yn Ysbyty Tywyn cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar recriwtio mwy o staff nyrsio ac mae'r broses yn debygol o gymryd sawl mis.

“Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi pryder o fewn cymuned Tywyn ond rydym wedi gwneud y penderfyniad i amddiffyn diogelwch ein cleifion mewnol hyd nes y gallwn gyrraedd lefelau cynaliadwy o staff nyrsio.”