Neidio i'r prif gynnwy

Newid dros dro i'n Gwasanaeth Dermatoleg

Oherwydd yr heriau recriwtio parhaus ym maes Dermatoleg yn ardaloedd Gwynedd a Môn yn y Bwrdd Iechyd, mae angen i ni wneud newidiadau byrdymor i'n gwasanaeth.

Bydd y rhan fwyaf o gleifion lle bo angen gweld Meddyg Ymgynghorol ac sy'n byw yn y siroedd hyn yn cael cynnig apwyntiad clinig mewn ysbyty neu ganolfan iechyd arall yng Ngogledd Cymru yn ystod y cyfnod hwn. 

Bydd ein clinigau Dermatoleg dan arweiniad nyrsys yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alltwen, Ysbyty Penrhos Stanley ac Ysbyty Llandudno yn parhau yn ôl yr arfer. Bydd ein meddygon teulu sydd â diddordeb arbennig mewn canser y croen hefyd yn parhau i gynnal eu clinigau yn y gymuned.

Rydym wedi gweithio gyda'n clinigwyr i ddatblygu cynlluniau i wella capasiti ar gyfer Dermatoleg, yn benodol ar gyfer achosion brys lle amheuir bod canser y croen ar gleifion. Er mwyn ein helpu i weld mwy o gleifion yn gyflym, byddwn yn cyflwyno clinigau ychwanegol gyda'r nos a thros y penwythnos.

Byddwn yn cysylltu ag unrhyw gleifion yr effeithir arnynt gan y newid dros dro yma gan gynnig apwyntiad maes o law.

Os bydd gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â'n tîm PALS