Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

Diweddariadau ar ein cynlluniau brechu a chynnydd ar y brechiadau yng Ngogledd Cymru

Medi 5, 2024

Mae timau’r Bwrdd Iechyd wedi rhoi’r brechiadau cyntaf fel amddiffyniad yn erbyn RSV i ferched beichiog yng Ngogledd Cymru

Yn dilyn cyflwyno’r rhaglen frechu newydd, rydym yn gwahodd merched sydd 28 wythnos, neu fwy yn feichiog, i fynychu un o’n clinigau brechu i wella amddiffyniad eu babi rhag RSV. 

Yn ogystal, bydd oedolion hŷn yn cael eu gwahodd i dderbyn y brechiad ym meddygfa eu Meddyg Teulu neu yn un o ganolfannau brechu’r Bwrdd Iechyd. 

Mae RSV fel arfer yn achosi rhwng 400 a 600 o farwolaethau ymhlith oedolion hŷn a thros fil o dderbyniadau i’r ysbyty ymhlith babanod ifanc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae treialon wedi dangos bod y brechiad newydd yn cynnig amddiffyniad gwych rhag salwch difrifol.
 

Merched Beichiog 

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu’n rheolaidd ȃ merched beichiog o tua 26 wythnos ymlaen a byddant yn cael eu gwahodd i apwyntiad yn un o’n clinigau brechu pan fyddant oddeutu 28 wythnos. Fel arfer bydd y gwahoddiadau’n cael eu hanfon trwy lythyr, ond mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu ȃ rhai merched dros y ffôn. 

Yn ystod mis Medi, byddwn hefyd yn gwahodd pob merch sydd dros 28 wythnos o feichiogrwydd am frechiad RSV. Bydd y merched sydd agosaf at ddyddiad y geni yn cael eu gwahodd yn gyntaf, a bydd gwahoddiadau i ferched beichiog eraill yn dilyn yn yr wythnosau nesaf.

Yn ogystal, rydym yn atgoffa merched eu bod yn gymwys am frechiad yn erbyn pertwsis (y Pas) yn ystod beichiogrwydd (o 16 wythnos ymlaen) ynghyd â’r brechiad rhag y ffliw a’r brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 (ar unrhyw adeg). Mae’r brechiadau hyn yn helpu i amddiffyn y fam a'r babi rhag mynd yn ddifrifol wael ar adeg pan fo’u himiwnedd naturiol yn erbyn afiechyd yn is.

Rydym yn galw ar ferched beichiog i beidio ag oedi, ac i dderbyn y brechiadau hyn cyn gynted ag y cânt eu cynnig er mwyn sicrhau’r amddiffyniad gorau posibl.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r brechiad ar gael yma
 

Oedolion hŷn

O’r mis hwn, bydd y brechiad RSV yn cael ei gynnig yn rheolaidd i bobl hŷn wrth iddynt droi'n 75 oed. Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu gwahodd i fynychu apwyntiad i dderbyn y brechiad yn eu meddygfa yn ystod y tri mis cyntaf yn dilyn eu Pen-blwydd yn 75 oed, ond bydd rhai yn cael eu gwahodd i dderbyn y brechiad yn un o ganolfannau brechu'r Bwrdd Iechyd.

Yn ystod y 12 mis nesaf, bydd y brechiad yn cael ei gynnig i bawb rhwng 75 a 80 oed (wedi eu geni rhwng 2 Medi, 1944 a 1 Medi, 1949 yn unig) fel rhan o raglen dal i fyny. Dylai cleifion cymwys gadw golwg am lythyr apwyntiad ynglŷn â’u brechiad RSV, neu drefnu apwyntiad mewn clinig sy’n cael ei hysbysebu gan eu meddygfa deulu pan gânt eu gwahodd i wneud hynny.

Ni fydd y brechiad RSV yn cael ei gynnig ar yr un pryd â brechiad ffliw’r gaeaf a’r brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r brechiad ar gael yma
 

Brechu rhag y ffliw 

Yn dechrau wythnos nesaf, bydd y Bwrdd Iechyd a meddygfeydd ar draws Gogledd Cymru yn rhoi brechiadau ffliw y gaeaf i blant. 

Bydd plant sy’n ddwy a thair oed (oedran ar 31 Awst 2024, wedi eu geni rhwng 1 Medi, 2020 a 31 Awst, 2022, yn unig) yn cael eu gwahodd i dderbyn brechiad rhag y fliw trwy chwistrell trwyn, di-boen ym meddygfa eu

Meddyg Teulu. Bydd plant oedran ysgol yn cael cynnig y brechlyn trwy chwistrell mewn clinigau penodol mewn ysgolion yn ystod tymor yr Hydref.

Gall y brechlyn ffliw helpu i atal salwch difrifol ymhlith plant. Yn ogystal, mae’n helpu i leihau effaith ehangach y ffliw yn ein cymunedau, gan amddiffyn pobl hŷn a’r unigolion hynny sy’n fwy agored i niwed rhag y feirws. 

Bydd merched beichiog hefyd yn cael cynnig brechiad ffliw y gaeaf o fis Medi ymlaen.

Yn dilyn canllawiau gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio a Llywodraeth Cymru, disgwylir i sesiynau brechu rhag y ffliw y GIG ddechrau yng Ngogledd Cymru o'r wythnos yn dechrau 30 Medi ar gyfer pob grŵp arall o oedolion sy'n gymwys. Mae’r holl fanylion ynghylch cymhwysedd a sut i dderbyn y brechlyn ar gael yma.
 

Brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 

Yn dilyn canllawiau gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio a Llywodraeth Cymru, bydd y brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 yn cael eu cynnig i bobl cymwys o 1 Hydref. 

Byddwn yn ysgrifennu at yr holl unigolion cymwys yn cynnig apwyntiad iddynt i dderbyn eu brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19. Gall yr apwyntiad hwn gael ei gynnal mewn canolfan frechu neu ym meddygfa’r Meddyg Teulu. 

Lle bo modd, mae’n bosibl y bydd pobl cymwys yn cael cynnig brechlyn y ffliw ar yr un pryd â’u brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19. 

Fel yn yr ymgyrchoedd blaenorol, bydd timau brechu’r Bwrdd Iechyd yn ymweld ȃ chartrefi gofal i gynnig y brechiad i’r bobl sy’n byw yno yn ystod wythnosau cyntaf ein hymgyrch. O ganlyniad, rydym yn disgwyl y bydd yr apwyntiadau cyntaf yn ein canolfannau brechu yn cael eu cynnal o ganol fis Hydref ymlaen, gyda’r rhai sy’n debygol o fod yn fwyaf agored i’r feirws yn cael eu gwahodd yn gyntaf.

Bydd llythyrau cyntaf yr apwyntiadau hyn yn cael eu hanfon yn ddiweddarach yn y mis, a bydd yn cynnwys y lleoliad, dyddiad ac amser yr apwyntiad brechu,yn ogystal ȃ gwybodaeth ynghylch beth i’w wneud os oes angen newid yr apwyntiad arnoch. Rydym yn annog pobl sy’n gymwys am y brechiad i aros nes bydd eu llythyr apwyntiad wedi cyrraedd. Yna, dewch ar bob cyfri i dderbyn eich brechiad atgyfnerthu.

Cysylltir ȃ phobl sy’n gaeth i’r tŷ yn uniongyrchol i wneud trefniadau ar gyfer eu brechiad. 

Mae’r holl fanylion am gymhwysedd a sut i dderbyn y brechiad ar gael yma

 

Mae diweddariadau blaenorol

 

 


Mae diweddariadau blaenorol wedi'u harchifo