Gall pobl ifanc sy'n gymwys ar gyfer brechlyn meningitis B alw heibio un o'n clinigau brechu yn y gymuned ar gyfer eu dos cyntaf heb drefnu apwyntiad
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am leoliadau ein clinigau a dyddiadau ac amseroedd y sesiynau brechu galw heibio isod.
Mae'r brechlyn ar gael ar gyfer:
Mae angen dau ddos o'r brechlyn i'ch amddiffyn eich hun yn llawn. Byddwch yn cael apwyntiad ar gyfer ail ddos ar ôl derbyn eich un cyntaf, fel arfer, rhyw bedair wythnos yn ddiweddarach.
Er mwyn trefnu apwyntiad brechu, aildrefnu apwyntiad neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
I drefnu brechiad COVID-19 y Gwanwyn ar gyfer plentyn â system imiwnedd wannach neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk.
Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
Mwy o wybodaeth am galw'r Ganolfan Gyswllt Brechu.