Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar faterion yn ymwneud ag adroddiad allanol ar gyfrifon y Bwrdd Iechyd 2021/2022

Yn gynharach eleni, derbyniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) adroddiad gan gwmni cyfrifyddiaeth allanol yn cofnodi canfyddiadau’r cwmni hwnnw ar faterion yn ymwneud â chamddosbarthu gwariant yng nghyfrifon y Bwrdd Iechyd.

Mae'r pwys mwyaf wedi cael ei roi ar adroddiad y trydydd parti ac mae ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal. Bydd hyn yn galluogi'r Bwrdd Iechyd i ddod i'w gasgliadau ei hun, yng ngoleuni'r holl dystiolaeth, o ran sut y daeth y camddosbarthu hwnnw i'r amlwg a phwy sy'n atebol am y camddosbarthu.

Rydym wedi penderfynu y dylai'r adroddiad gael ei ddatgelu yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (PAPAC) yn gyfrinachol (gan hepgor enwau swyddogion iau) fel y gall y Pwyllgor gwblhau ei waith arolygu a chraffu statudol pwysig yn ddirwystr. Bydd Cadeirydd Dros Dro’r Bwrdd Iechyd Dyfed Edwards a’r Prif Weithredwr Dros Dro Carol Shillabeer yn mynd i sesiwn dystiolaeth breifat o’r Pwyllgor ar 5 Gorffennaf 2023.

Er tegwch i'r unigolion dan sylw a chan ystyried yr angen i sicrhau bod egwyddorion cyfiawnder naturiol yn cael eu parchu ac na fydd unigolion yn cael eu rhoi ar brawf yn afresymol neu'n annheg yn llys barn y cyhoedd, ni fyddwn yn gwneud sylwadau pellach mewn fforwm cyhoeddus ar destun yr adroddiad hyd nes i'r ymchwiliadau parhaus gael eu cwblhau.