Mae Rhaglen Gwella Gwasanaethau Strôc wedi cyflwyno gwasanaeth Rhyddhau'n Gynnar â Chymorth (ESD), y cyntaf yng Ngogledd Cymru, a fydd yn helpu cleifion i wella gartref, yn hytrach nag yn yr ysbyty neu mewn lleoliad clinigol.
Mae’r gwasanaeth wedi’i gyflwyno yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy, a disgwylir iddo gael ei gyflwyno yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn gynnar eleni.
Mae'r timau ESD yn cynnwys seicolegwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a therapyddion iaith a lleferydd, sydd â'r nod o helpu cleifion strôc i wella gartref.
Mae ESD yn darparu gwasanaeth adsefydlu arbenigol strôc gyda thîm amlddisgyblaethol yn cefnogi cleifion gartref a'i nod yw lleihau'r amser a dreulir yn yr ysbyty ar gyfer 37% o gleifion strôc presennol, gan arwain at fwy o annibyniaeth ac adferiad gwell.