Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Iechyd Corwen

Dechreuodd y gwaith o ddatblygu'r Achos Busnes yn 2016, a chafodd ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2017. Cafodd Paveaways, Contractiwr lleol o Groesoswallt, y contract, a dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr 2018.

Bydd y gwaith ailddatblygu yn galluogi'r canlynol:

Gwasanaethau Deintyddol

  • Mae'r gwasanaeth deintyddol wedi cael ei ddarparu o uned symudol yn y maes parcio yng Nghanolfan Iechyd Corwen am nifer o flynyddoedd, ac mae wedi cael ei symud i un o'n deintyddfeydd newydd yn y Ganolfan Iechyd, gan ddarparu 10 sesiwn yr wythnos o ddydd Llun- ddydd Gwener.
  • Bydd y Gwasanaeth Deintyddol Cymuned yn darparu gwasanaeth llawn amser, dydd Llun - ddydd Gwener o'r ail feddygfa, ar gyfer preswylwyr mwyaf bregus o Gorwen a'r ardaloedd cyfagos. Yn amodol ar recriwtio deintydd a therapydd yn llwyddiannus, rhagwelir y bydd y gwasanaeth hwn yn weithredol erbyn diwedd 2018.

Gofal Cychwynnol

  • Mae'r gwaith ailddatblygu yn darparu 2 ystafell ymgynghori ychwanegol ar gyfer y feddygfa, mae hyn yn golygu y gall y Feddygfa ddarparu lleoliadau i 2 feddyg dan hyfforddiant (hy, 2 x Myfyriwr Meddygol Blwyddyn 5 a Chofrestrydd Meddyg Teulu dan Hyfforddiant) ar yr un pryd
  • Mae un ystafell glinigol wedi cael ei dylunio'n benodol i alluogi un o'r Partneriaid i ddarparu gwasanaethau Cardioleg arbenigol yng Nghorwen, dan Feddyg Teulu sydd â threfniadau Cyfrifoldeb Estynedig (GPWER) gyda'r Bwrdd Iechyd, yn hytrach na bod cleifion yn teithio i Wrecsam neu Ysbyty Glan Clwyd.
  • Ystafell aros a derbynfa newydd mawr- a rennir gyda gwasanaethau Deintyddol

Lleoliad a Rennir/ BIPBC

  • Ystafell wedi'i hailddylunio a'i hailddodrefnu ar gyfer Ymwelwyr Iechyd, i'w galluogi i ddarparu gwasanaeth i deuluoedd o'r Ganolfan Iechyd
  • Ystafell amlbwrpas wedi'i hailddylunio a'i hailddodrefnu ar gyfer Ffisiotherapi a therapïau eraill
  • Ystafell triniaeth amlbwrpas newydd
  • Lleoliad ar gyfer y Nyrsys Ardal
  • Gwell telegyfathrebu (yn seiliedig ar WIFI)
  • Gwell cyfleusterau i staff, gyda goleuo naturiol gwell, yn y swyddfeydd, y ceginau a'r toiledau.

Bu i'r gwasanaethau symud yn ôl i'r safle a ailddatblygwyd ar 15 Hydref 2018.